Skip to main content
Staff At Gwyl Tawe Event

Staff yn hybu dysgu yn y Gymraeg yng Ngŵyl Tawe 2024

Dychwelodd gŵyl Menter Iaith Abertawe, Gŵyl Tawe, am ei hail flwyddyn i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Gwelodd yr ŵyl berfformiadau gan lu o artistiaid amgen, cyfoes sy’n defnyddio’r Gymraeg mewn ffyrdd amrywiol a chyffrous.


Roedd yr ŵyl rhad ac am ddim yn cynnwys perfformiadau gan oreuon y sin gerddoriaeth Gymraeg gan gynnwys Parisa Fouladi a Rogue Jones ar y prif lwyfan a noddwyd gan Cymru Greadigol a bandiau fel Ci Gofod, Bitw ac Alffa ar Lwyfan Coleg Gŵyr Abertawe.


Gallwch ddarganfod mwy am Fenter Iaith Abertawe drwy fynd i’w gwefan.