Skip to main content

Dysgwyr Arweinyddiaeth a Rheolaeth yn dathlu llwyddiant

two learners receiving an award

Cafodd dau ddysgwr arweinyddiaeth a rheolaeth eu gwobrwyo yn ddiweddar mewn seremoni arbennig yn Nhŷ Norton, Y Mwmbwls.

A hwythau yn weithwyr switsfwrdd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (BIPBA), sydd wedi bod yn astudio’n rhan-amser ochr yn ochr â’u gwaith, cafodd y myfyrwyr gyfle i ddathlu eu llwyddiant headdiannol iawn gyda chyfoedion a chydweithwyr.

Yn derbyn eu tystysgrifau Lefel 3 ILM (Sefydliad Arweinyddiaeth a Rheolaeth) roedd Brendon Bunford a Megan McGowan ac mae’r ddau bellach yn symud ymlaen i’r cwrs Lefel 4.

Wrth siarad am y digwyddiad, dywedodd Jane Freeman, Hyfforddwr Arweinyddiaeth a Rheolaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Roedd hi’n fraint mynd i’r seremoni wobrwyo lle cafodd dau o’m dysgwyr eu tystysgrifau yn ddiweddar.

“Llongyfarchiadau gwresog i Brendon a Megan ar eu cyflawniad arbennig! Wrth iddyn nhw gychwyn eu taith ILM Lefel 4, dwi’n siŵr y byddan nhw’n parhau i ragori. Mae wedi bod yn bleser i dystio eu hymroddiad a’u datblygiad, a dwi’n edrych ymlaen yn fawr i’w cynorthwyo yn eu cam nesaf.”

Wrth siarad am eu cyflawniadau, dywedodd Ruth Evans, Rheolwr Prosiect Dysgu a Datblygiad yn BIPBA: “Mae’n wych gallu cynnig amrywiaeth o gyrsiau i staff fel y gallan nhw wella eu sgiliau a defnyddio’r rhain yn eu rolau pwysig ar ein switsfwrdd. 

"Mae’r cymorth maen nhw wedi’i gael gan dîm hyfforddi dysgu seiliedig ar waith Coleg Gŵyr Abertawe a’u haseswr wedi rhoi modd iddyn nhw gwblhau’r rhaglen wrth weithio, a symud ymlaen i’r lefel uwch i gynyddu eu gwybodaeth ymhellach.”