Mae myfyrwyr cyfryngau galwedigaethol ar Gampws Gorseinon wedi cael cyfle anhygoel i gwrdd â phobl o fyd diwydiant.
Aeth aelodau o dîm Cynllun Cynhyrchu Creadigol BBC Cymru Wales i ddigwyddiad rhwydweithio anffurfiol gyda’n dysgwyr ychydig cyn gwyliau’r Nadolig.
Roedd fformat y digwyddiad ar ffurf ‘caru cyflym’ lle cwrddodd y myfyrwyr â gwneuthurwyr rhaglenni o BBC Cymru Wales a’r sector annibynnol, ac ar draws amrywiaeth eang o genres gan gynnwys newyddion, chwaraeon, radio, digidol a marchnata, addysg ac archifau.
Prif bwrpas y digwyddiad oedd i’r tîm Cynllun Cynhyrchu Creadigol gael mwy o ddealltwriaeth o ddefnydd pobl ifanc o’r cyfryngau a’u harferion gwylio/gwrando, clywed eu syniadau am raglenni newydd arloesol, a chael adborth ar eu gwasanaethau presennol.
Cafwyd cyfle hefyd i’r bobl ifanc ddysgu rhagor am y cynlluniau prentisiaeth a gynigir gan BBC Cymru Wales.
“Gwych oedd gallu hwyluso cyfarfod rhwng ein myfyrwyr y cyfryngau galwedigaethol a gweithwyr proffesiynol diwydiant oedd yn gallu siarad â nhw am lwybrau gyrfa posibl,” meddai Arweinydd y Cwricwlwm Jarrod Waldie. “Fe wnaeth y myfyrwyr fwynhau’r digwyddiad mas draw ac rwy’n obeithiol y gallwn ni drefnu mwy o weithdai tebyg, sydd mor ysbrydoledig a chalonogol iddyn nhw o ran ystyried opsiynau astudio a chyflogaeth yn y dyfodol.”