Skip to main content

Diogelwch Tân a Rheoli Risg (NEBOSH) Lefel 3 – Tystysgrif

GCS Training
Lefel 3
NEBOSH
Llys Jiwbilî
12 diwrnod dros dri mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae deddfwriaeth tân gyfredol yn rhoi’r cyfrifoldeb ar gyflogwyr fel y person cyfrifol i asesu ac ymateb i risgiau tân. Bwriad cwrs Diogelwch Tân a Rheoli Risg NEBOSH yw helpu sefydliadau i gyflawni eu cyfrifoldebau o dan y ddeddfwriaeth newydd hon.

Yn addas i reolwyr a staff goruchwylio sy’n gorfod sicrhau bod eu sefydliadau yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelwch tân, bydd y cymhwyster yn rhoi modd i chi gynnal asesiadau risg tân yn y rhan fwyaf o weithleoedd risg-isel, a nodi’r ystod o fesurau tân amddiffynnol ac ataliol sydd eu hangen.

Mae’r cymhwyster hefyd yn addas i’r rhai sy’n symud i rolau cynghori ynghylch tân.

Gwybodaeth allweddol

Bydd y cymhwyster yn cynnwys pum tiwtorial, diwrnod adolygu, ac arholiad FSC1. Mae cyflwyniad FSC2 yn ofynnol dim hwyrach na 10 diwrnod ar ôl yr arholiad terfynol. 

Unedau

Mae’r cymhwyster Diogelu Tân a Rheoli Risg yn cwmpasu unedau FSC1 ac FSC2, ac mae’n cynnwys:

Egwyddorion tân a ffrwydradau: eu hachosion a dulliau atal
Egwyddorion ffordd o ddianc: ystyried ffactorau cyfrannol oyr adeilad a’i gynnwys/ddefnydd
Proses o asesu risg tân
Deddfwriaeth berthnasol i dân

Mae’r cymhwyster yn cynnwys arholiad FSC1 yn ogystal ag asesiad ymarferol ar gyfer FSC2.