Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial Microsoft Azure (AI900) - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr ar gysyniadau deallusrwydd artiffisial cysylltiedig â datblygu meddalwedd a gwasanaethau Microsoft Azure i greu datrysiadau deallusrwydd artiffisial.
Ar ôl cwblhau, bydd dysgwyr yn gallu:
- Disgrifio llwythi gwaith ac ystyriaethau deallusrwydd artiffisial
- Disgrifio egwyddorion sylfaenol o ddysgu peirianyddol ar Azure
- Disgrifio nodweddion llwythi gwaith gweledigaeth gyfrifiadurol ar Azure
- Disgrifio nodweddion llwythi gwaith Prosesu Iaith Naturiol (NLP) ar Azure
- Disgrifio nodweddion llwythi gwaith deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar Azure
Wedyn bydd dysgwyr yn cael cymorth i sefyll arholiad Microsoft AI900, ac anelu at gyflawni statws AI900.
Gwybodaeth allweddol
Byddai dealltwriaeth o gysyniadau cwmwl sylfaenol a chymwysiadau gweinydd/cleient yn fuddiol.
Bydd y cymhwyster yn cynnwys cyfuniad o wersi wedi’u haddysgu, a phrofiadau ymarferol mewn Labordai Dysgu Microsoft.
Bydd yn cael ei addysgu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.
Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft sy’n gysylltiedig â Gweinyddu Azure, Gwasanaethau Cwmwl, Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol. Bydd y cymhwyster yn eich paratoi ar gyfer ardystiadau eraill seiliedig ar rôl megis Cydymaith Gwyddonydd Data Azure neu Gydymaith Peiriannydd Deallusrwydd Artiffisial Azure.
Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sydd yn arweinwyr ym maes Addysg Ardystiedig Microsoft.