TGAU
Ailsefyll TGAU - Ymadawyr ysgol
Heb gael y graddau roeddech chi’n eu disgwyl ac angen dilyn eich cyrsiau TGAU eto?
Mae graddau TGAU yn bwysig. Mae ailsefyll arholiadau TGAU yn rhoi cyfle arall i chi gyrraedd eich potensial llawn. Mae prifysgolion yn gosod pwyslais cynyddol ar ganlyniadau TGAU, ac mae hyn yn golygu bod set dda o ganlyniadau arholiadau TGAU yn fwy pwysig nag erioed.
Mae amserlen hyblyg yn golygu y gallwch astudio ar gyfer eich graddau TGAU ochr yn ochr â’ch cyrsiau Safon Uwch mewn pynciau eraill, felly peidiwch â gofidio os ydych yn meddwl y bydd ailsefyll un neu ddau bwnc TGAU yn eich dal yn ôl yn gyfan gwbl.
Byddwch yn cael tiwtor personol i’ch cynorthwyo a’ch arwain trwy’r cwrs.
TGAU - Oedolion
Os ydych chi am sicrhau cymwysterau i roi hwb i’ch cyflogadwyedd ac ennill sgil ychwanegol, gallwch gofrestru ym mis Medi ar gyfer rhaglenni TGAU mewn Saesneg, Mathemateg, Gwyddoniaeth neu Gymraeg (iaith gyntaf).
Os ydych chi eisoes wedi ennill gradd D neu’n gyn-fyfyriwr ESOL sydd wedi sicrhau Lefel 2, gallwn gynnig darpariaeth wyneb yn wyneb neu o bell ar gyfer cymwysterau TGAU mewn Saesneg a Mathemateg.
Cofrestrwch nawr i ddechrau ym mis Medi 2024.
Safon Uwch Sylfaen
Lefel 2 A Level
TGAU Bioleg
Lefel 2 GCSE
TGAU Cemeg
Lefel 2 GCSE
TGAU Mathemateg
Lefel 2 GCSE
TGAU Saesneg Iaith
Lefel 2 WJEC