Skip to main content

Newyddion y Coleg

 

Penodi Llysgenhadon Addysg Bellach Coleg Gŵyr Abertawe a’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cyhoeddi 20 Llysgennad Addysg Bellach newydd ar gyfer blwyddyn academaidd 2024-25, gyda thri ohonynt wedi eu penodi mewn cydweithrediad â’r Coleg Cymraeg.
 
Bydd y llysgenhadon yn codi ymwybyddiaeth eu cyd-ddysgwyr yn y coleg o fanteision astudio’n ddwyieithog, a’u hannog i barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg tra yn y coleg i’w paratoi ar gyfer y byd gwaith.

Ymhlith y criw newydd yng Ngholeg Gŵyr Abertawe eleni bydd:  

Alexandra Anekore 
Aneurin Hywel   
Ariella Rees-Davies 

Darllen mwy
  

Tîm cyflogadwyedd yn cystadlu am wobrau mawr

Mae darpariaeth cyflogadwyedd Coleg Gŵyr Abertawe, Gwell Swyddi, Gwell Dyfodol, wedi cyrraedd y rhestr fer mewn dau gategori yng Ngwobrau Cymdeithas Gwasanaethau Cysylltiedig â Chyflogaeth (ERSA) 2024.

Darllen mwy
 

Gwybodaeth am noson agored Campws Tycoch, 18 Tachwedd 2024

Dyma wybodaeth bwysig i unrhyw un sy’n meddwl am ddod i’n noson agored ar Gampws Tycoch ddydd Llun 18 Tachwedd.

Mae’r noson agored yn dechrau am 5.30pm a bydd yn gorffen am 7.30pm. Ewch i'r brif dderbynfa pan fyddwch chi'n cyrraedd.

Gair o Groeso (Prif Neuadd): 5.30pm; 6pm; 6.30pm

Darllen mwy
 

Myfyrwyr Dawnus yn cystadlu i ennill teitl ‘Gorau yn y DU’

Bydd pedwar myfyriwr yn cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe yn Rownd Derfynol Cystadleuaeth Worldskills UK eleni. Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal o 19- 22 Tachwedd mewn lleoliadau ledled Manceinion.

Y myfyrwyr sy’n cynrychioli’r Coleg:

Darllen mwy
Group photo of Award winners

Dysgwyr disglair yn nigwyddiad dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe

Yr wythnos hon, cynhaliwyd digwyddiad i arddangos gwaith oedolion sy’n ddysgwyr er mwyn dathlu Partneriaeth Dysgu Oedolion Abertawe (ALPS).


Cafodd y digwyddiad dathlu ei gynnal ar 7 Tachwedd ochr yn ochr â digwyddiad cynllunio UNESCO. Mynychodd grwpiau dysgu ffurfiol ac anffurfiol y digwyddiad er mwyn helpu i gynllunio dathliadau degfed pen blwydd Dyfarniad Dinas sy’n Dysgu UNESCO.

Darllen mwy
 

Gwybodaeth allweddol ar gyfer ein Digwyddiad Agored Campws Gorseinon – Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024

Dyma beth sydd angen i chi ei wybod os ydych yn bwriadu ymuno â ni ar gyfer ein Digwyddiad Agored Campws Gorseinon ar Ddydd Mercher, 13 Tachwedd, rhwng 3:30pm a 7:30pm. Rydyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld yno!

Oherwydd y gwaith ailwampio gwerth £20.6m ar y Campws – a fydd yn arwain at well cyfleusterau gan gynnwys gofod cymdeithasol, atriwm newydd ac ystafelloedd dosbarth – mae’n bosibl y bydd pethau eraill i’w hystyried cyn ymweld â ni.

Darllen mwy
 

Dathlu staff yng Ngwobrau Gwasanaeth Hir arbennig

Mae tua 70 o staff hir eu gwasanaeth yng Ngholeg Gŵyr Abertawe wedi cael eu dathlu mewn digwyddiad arbennig yn Stadiwm Swansea.com. 

Sefydlwyd y Gwobrau Gwasanaeth Hir i gydnabod a diolch i’r aelodau staff hynny sydd wedi rhoi o leiaf 20 mlynedd o wasanaeth i Goleg Gŵyr Abertawe.  

Fe wnaeth darlithwyr, rheolwyr a staff cymorth busnes o bob maes o’r sefydliad dderbyn rhoddion wedi’u personoli cyn mwynhau te prynhawn.

Darparwyd yr adloniant gan y delynores leol Bethan Sian a’r gantores dalentog Abigail Rankin, sydd yn fyfyriwr yn y Coleg.   

Darllen mwy
 

Anerchiad am brifysgolion blaenllaw i ddysgwyr ifanc

Cafodd cannoedd o ddysgwyr ifanc eu gwahodd yn ddiweddar i lansiad Hyb Seren Abertawe ar gyfer  2024/25, lle roeddent yn gallu dysgu rhagor am y sgiliau sydd eu hangen i wneud cais i brifysgolion gorau’r DU.

Daeth bron 300 o fyfyrwyr o’r Coleg a chweched dosbarth ysgolion i’r digwyddiad, dan arweiniad Coleg Gŵyr Abertawe a Phrifysgol Abertawe, yn y Neuadd Fawr ar Gampws y Bae y Brifysgol. Daeth llawer ohonynt â’u rhieni a’u gwarcheidwaid hefyd.

Darllen mwy
 

Digwyddiad ar y gweill – Darparu Rhagoriaeth Mewn Eiddo: Meistroli Gosod Preswyl

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi digwyddiad arbennig a fydd yn cynnig cyfle unigryw i landlordiaid, asiantau gosod a rheolwyr eiddo gwrdd yn uniongyrchol â’n harbenigwyr tai, gan archwilio llwybrau newydd ar gyfer datblygiad staff.

Darllen mwy
O’r chwith i’r dde: Mark Jones, Prif Swyddog gweithredol Coleg Gŵyr Abertawe, Louisa Walters, Rheolwr Datblygu Ansawdd Coleg Gŵyr Abertawe, Sally Pearson, Pennaeth Dysgu a Sgiliau Novus Gower a Peter Cox, Rheolwr Gyfarwyddwr Novus

Novus Gŵyr yn Croesawu Cynhadledd Dysgu ac Addysgu Agoriadol

Dathlu Twf a Rhagoriaeth mewn Addysg Carchar

Mae Novus Gŵyr yn falch o gyhoeddi ei Gynhadledd Dysgu ac Addysgu gyntaf erioed, gan ddathlu’r cynnydd rhyfeddol mewn addysg yng Ngharchar Ei Fawrhydi a Sefydliad Troseddwyr Ifanc y Parc ers cymryd y contact addysg a hyfforddiant ym mis Rhagfyr 2022.

Menter ar y cyd yw Novus Gŵyr rhwng Novus, un o ddarparwyr rhaglenni addysg, hyfforddiant a chyflogadwyedd mwyaf y DU i garcharorion, a Choleg Gŵyr Abertawe, un o golegau mwyaf Cymru.

Darllen mwy