Addysg Sylfaenol i Oedolion
Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura Hanfodol
Dewch i wella eich sgiliau Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura. Magwch hyder ar gyfer gwaith, addysg bellach, neu ddatblygiad personol.
Mae’r cyrsiau hyn yn addas i’r rhai sydd am wella eu hyfedredd mewn Saesneg, Mathemateg a Chyfrifiadura a magu hyder. P’un a ydych am helpu’ch plant gyda gwaith cartref, ennill cymwysterau i wella cyflogadwyedd, neu newid gyrfa, mae ein rhaglenni wedi’u teilwra i’ch anghenion chi.
- Hoffech chi wella’ch llythennedd digidol, ar gyfrifiadur, ffôn symudol neu lechen?
- Efallai fod angen i chi fireinio eich atalnodi, sillafu, a gramadeg neu baratoi ar gyfer cyfweliadau.
- Ydy eich biliau cartref yn peri dryswch i chi neu a hoffech gael cymorth i wybod sut i chwilio am y fargen orau?
Beth bynnag yw’ch rheswm, mae ein tîm o staff ymroddedig a phrofiadol yn barod i’ch helpu i gyrraedd eich nod.
Mae’r cyrsiau yn rhad ac am ddim, yn amodol ar gymhwystra.
lleoliad: Llwyn y Bryn
Caiff gwersi eu cynnal mewn ystafell ddosbarth gan ddefnyddio amrywiaeth eang o ddulliau addysgu.
Hyd y cwrs:
Dosbarthiadau AGORED Cymru - 2 awr yr wythnos am 10 wythnos (ar gyfer pob pwnc)
Dosbarthiadau City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru - 2 awr yr wythnos am 30 wythnos (ar gyfer pob pwnc).
Asesu:
- AGORED Cymru: Asesiad o waith cwrs - portffolio a chwblhau Cynllun Dysgu Unigol
- City & Guilds Sgiliau Hanfodol Cymru: Asesiad ysgrifenedig yn y dosbarth (pob lefel), a phrawf er mwyn cadarnhau ar gyfer Lefel 1 a Lefel 2 (ysgrifenedig neu ar-lein) a chwblhau Cynllun Dysgu Unigol.
Ochr yn ochr â’n cyrsiau Addysg Sylfaenol i Oedolion, rydym hefyd yn cynnig cyrsiau sgiliau hanfodol eraill. Gweler ein cyrsiau isod, neu ewch i’n tudalen Addysg Oedolion i weld y rhestr lawn o’r hyn rydym yn ei gynnig i oedolion.
Lluosi - Coginio Prydau Rhad
Lefel 1
Lluosi - Creu Cyllideb Bersonol
Lefel 1
Lluosi - Cyfrifo Cost Digwyddiad
Lefel 1
Lluosi - Deall Benthyca a Dyled
Lefel 1
Lluosi - Deall Incwm ac Arbedion
Lefel 2
Lluosi - Seryddiaeth a Chysawd yr Haul
Lefel 1 AGORED
Lluosi – Sgiliau Rhif Dartiau
Lefel Mynediad 3
Sgiliau digidol ar gyfer busnes Lefel 1 - Dyfarniad
Lefel 1 AGORED
Sgiliau digidol ar gyfer busnes Lefel 2 - Dyfarniad
Lefel 2 AGORED