Profi Dyfeisiau Cludadwy Lefel 3 - Cymhwyster
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn galluogi dysgwyr i ddysgu, datblygu ac ymarfer y sgiliau sydd eu hangen i archwilio a phrofi eitemau trydanol yn unol â rhifyn diweddaraf y Cod Ymarfer ar gyfer Archwilio a Phrofi Cyfarpar Trydanol.
Os ydych chi eisoes yn gweithio fel trydanwr, bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i uwchsgilio a symud ymlaen o fewn y diwydiant.
Gwybodaeth allweddol
Nid yw City and Guilds yn gofyn am unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cymhwyster hwn; ond rhaid i ganolfannau sicrhau bod gan ymgeiswyr y potensial a'r cyfle i sicrhau'r cymhwyster yn llwyddiannus.
Ni all City and Guilds dderbyn cofrestriadau ar gyfer myfyrwyr o dan 18 oed, gan nad yw'r cymhwyster hwn wedi'i gymeradwyo ar gyfer unigolion dan 18 oed.
Disgwylir i fyfyrwyr sy’n astudio’r cymhwyster fod yn gyfarwydd â systemau trydanol a pheryglon trydan er mwyn cwblhau'r cymhwyster hwn yn effeithiol.
Mae disgwyl i fyfyrwyr sydd â cherdyn ECS, cerdyn gradd trydanwr JIB, profiad o gwblhau prentisiaeth electrodechnegol NVQ neu dystysgrif dechnegol (hyd at) Lefel 3 fod yn gyfarwydd â systemau trydanol a pheryglon trydan.
Os na fydd gan ymgeiswyr dystiolaeth o gymwysterau ffurfiol, rhaid iddynt ddangos gwybodaeth ac arbenigedd digonol i sicrhau bod ganddynt y potensial i ddatblygu gallu i archwilio a phrofi offer trydanol mewn modd cymwys.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno dros dri diwrnod a bydd yn cynnwys hyfforddiant ymarferol a gwaith ysgrifenedig.
Unedau
- Deall y diffiniadau a ddefnyddir yng Nghod Ymarfer IET ar gyfer Archwilio a Phrofi Offer Trydanol
- Deall y gofynion statudol ac anstatudol sy'n berthnasol i reoli a chynnal a chadw offer trydanol
- Deall yr unedau mesur trydanol sy'n cael eu defnyddio i archwilio a phrofi offer trydanol
- Deall y prosesau adeiladu offer a'r dulliau diogelu mewn perthynas â gosod offer trydanol, a sut mae'r rhain yn gysylltiedig â chynnig diogewlch rhag siociau trydanol
- Deall y gweithdrefnau ar gyfer archwilio a phrofi offer trydanol
- Deall sut i gynnal archwiliadau a phrofion cyfunol
- Deall y wybodaeth sydd angen ei chofnodi ar ôl cynnal archwiliad a phrofi offer trydanol
Mae’r cymhwyster hwn yn ddefnyddiol i staff cynnal a chadw cyfleusterau, contractwyr trydanol presennol, swyddogion iechyd a diogelwch ac eraill.
Cost y cwrs yw £300.
Asesu
Prawf amlddewis ar-lein: Llyfr agored (dan oruchwyliaeth).
Gradd: Llwyddo/Methu
Ffiniau graddau: Mae'r arholiad yn cynnwys 50 cwestiwn ac mae'n para 105 munud. 80% yw’r marc pasio ar gyfer arholiadau llyfr agored.
Rhaid i ymgeiswyr ddod â’u copi eu hunain o god ymarfer IET ar gyfer archwilio a phrofi offer trydanol. Bydd modd defnyddio’r cod ymarfer yn yr arholiad ar-lein.
Aseiniad ymarferol
Mae'r aseiniad ymarferol yn cynnwys Arolygu a Phrofi offer Dosbarth 1 a Dosbarth 2 neu Ddosbarth 3 AB.
Mae’r aseiniad yn cynnwys tair tasg:
Tasg un: Archwilio a phrofi eitem o offer Dosbarth 1.
Tasg dau: Archwilio a phrofi eitem o offer Dosbarth 2
Tasg tri: Cwblhau dogfennaeth briodol.