Fe aeth myfyrwyr Dalian Mingde Senior High School ar drip addysgol buddiol iawn wrth iddynt gymryd rhan yn Ysgol Aeaf 2024 Coleg Gŵyr Abertawe. Dan arweiniad y Swyddfa Ryngwladol, cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth eang o brofiadau academaidd a diwylliannol yn ystod eu hymweliad ag Abertawe.
Roedd cysgodi myfyrwyr Safon UG Coleg Gŵyr Abertawe yn rhan ganolog o’u taith, a chafwyd cipolwg o arferion addysgol Prydain wrth feithrin cydweithrediad trawsddiwylliannol. Cafodd myfyrwyr Mingde gyfle hefyd i gymryd rhan mewn mentrau academaidd ochr yn ochr â myfyrwyr lleol o Abertawe.
Y tu hwnt i furiau’r ystafell ddosbarth, cafodd y myfyrwyr gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau tîm, ymweld â’n campysau a mynd ar dripiau lleol. Cawsant hefyd gyfle i fynd i draeth hyfryd Rhossili a chael gweld arfordir hyfryd y Gŵyr, yn ogystal â chymryd rhan mewn sesiynau celf i fynegi eu creadigrwydd.
Un o uchafbwyntiau’r rhaglen oedd y trip i Ganol Dinas Abertawe, lle cafodd myfyrwyr Mingde gyfle i ymgolli yn niwylliant a hanes byrlymus y ddinas. O flasu pice ar y maen i archwilio amgueddfeydd a thirnodau lleol, cafwyd mewnwelediad i fywyd yn Abertawe.
I’r Pennaeth, Bing Su, a’r Cyfarwyddwr Rhyngwladol, Mr Dongfang Zhao, roedd mynd gyda’r myfyrwyr i Goleg Gŵyr Abertawe yn adlewyrchiad o’u hymrwymiad i gynnig cyfleoedd dysgu byd-eang. Fe wnaeth eu harweiniad a’u cefnogaeth sicrhau profiad effeithlon i fyfyrwyr Mingde.
Wrth i’r Ysgol Aeaf ddod i ben, derbyniodd myfyrwyr dystysgrifau cwblhau a rhoddion arbennig i drysori’r atgofion a gafwyd yn ystod eu hymweliad. Mae’r bartneriaeth rhwng Dalian Mingde Senior High School a Choleg Gŵyr Abertawe yn enghraifft o botensial trawsnewidiol cydweithredu rhyngwladol ac mae’n gosod llwybr i genedlaethau’r dyfodol fel y gallant gymryd rhan mewn cyfleoedd ledled y byd.