Cynnal a Chadw Gosodiadau Trydanol Sylfaenol - Cwrs
Ffôn: 01792 284400 E-bost: training@gcs.ac.uk
Trosolwg
Bwriedir y cwrs Cynnal a Chadw Gosodiadau Trydanol yn bennaf i’r rhai sydd heb lawer o brofiad neu ddim profiad o gwbl o gylchedau a chydrannau trydanol.
Bydd y cwrs yn darparu’r theori a’r ymarfer sydd eu hangen ar ddysgwyr i wneud gwaith cynnal a chadw trydanol sylfaenol yn eu heiddo eu hunain neu yn y gweithle, fel cysylltu top plwg, newid switsh golau neu ffitio neu wirio ar gyfer didoriant mewn cylched.
Ar ôl cwblhau, dylai dysgwyr allu:
- Deall sut i ynysu offer yn ddiogel
- Pennu’r risgiau o weithiau gydag offer trydanol a gwybod sut i’w lleihau
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen gwybodaeth drydanol benodol ar gyfer y cwrs hwn, ond rhaid bod ymgeiswyr yn gallu deall a chofio gwybodaeth dechnegol.
Bydd y cwrs yn cynnwys cyfarwyddyd ystafell ddosbarth ac ymarferion.
Mae’n cwmpasu:
- Gweithdrefnau ynysu diogel
- Gweithdrefnau ac arferion gosod diogel
- Nodi cydrannau
- Nodi sefyllfaoedd trydanol anniogel
- Gofynion daearu a bondio trydanol
- Gosod a newid cydrannau trydanol
- Technegau chwilio am namau sylfaenol
- Gwirio gweithrediad cywir a diogel cydran drydanol osodedig
Gallai dysgwyr sy’n dilyn y cwrs hwn ystyried y canlynol hefyd:
- Profi teclynnau cludadwy
- Cwrs gosodiadau domestig
- Gosod systemau ffotofoltäig
Nid oes asesiad ffurfiol ynghlwm wrth y cwrs hwn, ond mae’n cynnwys asesiad o wybodaeth lle bydd dysgwyr yn derbyn tystysgrif presenoldeb Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae’r holl staff addysgu yn drydanwyr profiadol ac yn athrawon cymwysedig, sydd â chyfradd pasio uchel iawn am y cwrs hanfodol hwn.
Y cwrs yw £250 y pen, ac eithrio TAW.