Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 3 - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd uwch sy’n darparu cymorth nyrsio penodol i unigolion sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd Cymru dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig proffesiynol. Hefyd, mae’r cwrs yn sefydlu sail ar gyfer parhau i ddatblygiad proffesiynol cynorthwywyr gofal iechyd.
I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig gan wasanaethau iechyd Cymru mewn rôl lle mae sgiliau clinigol yn rhan hanfodol o’u dyletswyddau. Cafodd y cymhwyster ei ddatblygu i wella llywodraethu arfer yng Nghymru trwy sicrhau ansawdd allanol.
Mae’r cymhwyster yn berffaith ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd uwch GIG Cymru, ac mae disgwyl i holl staff cymorth clinigol gael cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus. Gallant yna hwyluso unrhyw newidiadau mewn ymarfer dros amser.
Gwybodaeth allweddol
Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ i astudio’r cymhwyster hwn a bydd angen iddynt fod yn gweithio mewn rôl lle mae gofal iechyd clinigol naill ai'n rhan o'u gwaith neu’n ymwneud yn llwyr ag ef.
Cyflwynir y cymhwyster hwn drwy gyfuniad o sesiynau a addysgir mewn dosbarthiadau a chymorth un-i-un.
Bydd angen i ddysgwyr gwblhau portffolio cyfun o unedau gorfodol a dewisol, gan gwblhau o leiaf 60 credyd.
Bydd gofyn i ddysgwyr greu portffolio tystiolaeth i arddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer.
Bydd ystod o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, megis:
- Arsylwadau uniongyrchol o ymarfer
- Aseiniadau ysgrifenedig
- Cwestiynau / trafodaethau llafar
Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.
Unedau gorfodol
- Dyletswydd Gofal
- Iechyd a Diogelwch
- Cyfathrebu
- Lleihau heintiau
- Diogelu
Unedau Dewisol
- Cynnal safonau ansawdd
- Cymorth diwedd oes
- Casglu samplau gwaed gwythiennol
- Hyrwyddo iechyd meddwl a lles
- Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i weithredu rolau gofal iechyd clinigol ar sgiliau Lefel 3
- Nod y cymhwyster yw cynnig pwynt mynediad i addysg a sgiliau Lefel 4