Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n falch o gyhoeddi y byddwn yn cymryd rhan yn Wythnos Cymru Llundain, sef sioe flynyddol sy’n arddangos gweithgareddau a digwyddiadau sy’n dathlu a hyrwyddo Cymru yn ei holl ysblander.
Ar y cyd â phartneriaid clodfawr megis The Skills Centre, CITB, The Earls Court Development Company a Felicitas, rydym yn gyffrous i gynnig digwyddiad arbennig o’r enw Adeiladu Dyfodol Gwyrddach: Sgiliau cynaliadwy blaenllaw Cymru ar gyfer Amgylchedd Adeiladu’r DU.
Nod y digwyddiad yw cynnig platfform canolog i arweinwyr, arbenigwyr a rhanddeiliaid y diwydiant gyfnewid mewnwelediadau, arferion gorau a strategaethau arloesol, fel y gallant gyflawni twf mewn perthynas â mentrau cynialadwy o fewn sector amgylchedd adeiledig y DU.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys amrywiaeth o siaradwyr gwadd, gan gynnwys:
- Earls Court Development Company (I’w gadarnhau) - Croeso a throsolwg cryno o fentrau gwyrdd Earls Court Development
- Siaradwr i’w gadarnhau - Yr angen am sgiliau adeiladu traddodiadol i osod ffermydd gwynt yn Ne Cymru.
- Jon Howlin, Prif Swyddog gweithredol The Skills Centre - Problem insiwleiddio Llundain a’r datrysiadau; cyflwyniad i raglen bwtcamp insiwleiddio The Skills Centre.
- Paul Rogers, Pennaeth Ymgysylltu â Chyflogwyr Coleg Gŵyr Abertawe – creu nenlinell gynaliadwy i’r ddinas drwy raglenni prentisiaeth Rheoli Cyfleusterau Gwyrdd
- Leigh Hughes, Cadeirydd CITB yng Nghymru - Cynnig diwydiant i gefnogi datblygiad Sgiliau Gwyrdd yn yr amgylchedd adeiledig
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Llun, 4 Mawrth, 2.00pm – 4.00pm yn Earls Court Development Company, Ystafelloedd Prosiect 16-18, SW6 1TT.
Dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael. Bydd y digwyddiad yn cynnig cyfle unigryw i ymgysylltu ag arbenigwyr, rhannu profiadau ac archwilio cyfleoedd i gydweithio. Cofrestrwch yma.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y digwyddiad, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â hello@gcs.ac.uk
Ymunwch â ni yn Wythnos Cymru Llundain 2024 wrth i ni gymryd cam tuag at ddyfodol gwyrddach!