Skip to main content
Teenager holds a football as she looks at the camera, with a group of other players behind her

Academi Pêl-droed Merched

Mae gan y Coleg Academi Pêl-droed Merched ffyniannus lle gall chwaraewyr wella eu sgiliau trwy raglen hyfforddi proffesiynol. Mae chwaraewyr yn mynychu tair sesiwn hyfforddi yr wythnos, dan arweiniad hyfforddwr penodedig. Mae’r ffocws bob amser ar roi sylw i anghenion unigol pob chwaraewr, gan gynnwys datblygu sgiliau  pêl-droed, paratoi ar gyfer gemau a dadansoddi ar ôl gemau. Mae cyn-fyfyrwyr yn cynnwys chwaraewyr Merched Dinas Abertawe Ria Hughes, Laura Rees a Victoria Crocker.

Darperir tair sesiwn hyfforddi bob wythnos gan y prif hyffoddwr Andrew Stokes, sydd bob amser yn canolbwyntio ar anghenion unigol y chwaraewr. Mae’n cyflawni hyn trwy weithredu amserlen o hyfforddiant cymysg sy’n cynnwys datblygu sgiliau pêl-droed, paratoi at gemau, dadansoddi ar ôl gemau a hyfforddiant cryfder corfforol.

Byddwch yn dysgu gan y gorau mewn amrywiaeth o gyfleusterau hyfforddi o safon yn Abertawe, gan gynnwys Play Football Swansea, Pitchside, Prifysgol Abertawe a Choleg Gŵyr Abertawe. Trefnir bod gemau’n cael eu cynnal bob dydd Mercher, a dyma pryd y cewch gyfle i brofi popeth rydych wedi’i ddysgu. Ar ôl pob gêm, bydd yr hyfforddwr yn treulio amser gyda chi i ganolbwyntio ar ddadansoddiad o’ch perfformiad a hefyd bydd yn sicrhau eich bod yn gwybod am hyfforddiant adfer ac atal anafiadau.

Fel gyda’r holl hyfforddiant rydym yn ei ddarparu yn yr Academi Chwaraeon, ein hymrwymiad i chi yw sicrhau eich bod yn y cyflwr gorau posibl, yn gorfforol ac yn feddyliol, ac y bydd y manteision yn cael eu hadlewyrchu ar draws eich holl brofiad dysgu yn y Coleg.

Llwyddiannau

Ysgolion Cymru
Enillwyr Cwpan 2011-12

Colegau Cymru
5-bob-ochr Yr Ail Orau 2011-12

Cynghrair Colegau Cymru
Yr Ail Orau 2011-12

Cyngharir Colegau Cymru
Enillwyr 2012-13

Pêl-droed yn y gymuned
Fel gyda Phêl-droed Dynion, mae myfyrwragedd yn cael nifer o gyfleoedd i gymryd rôl weithgarmewn hyffoirddiant chwaraeon yn y dyfodol. Cewch gynnig hyfforddiant ac ymwybyddiaeth o gymorth cyntaf yn ogystal â chyfle i weithio gyda phobl iau i hyrwyddo’r gamp mewn ysgolion cynradd lleol – rhoddir Gwobrau Dyfarniadau Arweinwyr Pêl-droed a Gwobrau Arweinwyr Pêl-droed Cymunedol i’r rhai sy’n dangos y brwdfrydedd mwyaf.

Agor y drysau i gyfleoedd newydd
Wrth reswm, gall chwaraewyr yn yr Academi gyfuno eu hyfforddiant a’u hastudiaethau â chwrs academaidd o’u dewis. Mae nifer o fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio eu profiad a’u cymwysterau o’r Academi i fynd ymlaen i astudio ar lefel Addysg Uwch. Mae rhai o’r bobl sy’n gobeithio cael gyrfa mewn chwaraeon wedi mynd i Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd i astudio Chwaraeon a Gwyddor Chwaraeon ar lefel gradd.

Mae cyfleoedd hyd yn oed i wneud cais am ysgoloriaeth dramor. Mae nifer o’n myfyrwyr eisoes wedi bod yn ddigon lwcus i gael lle mewn Addysg Uwch yn yr Unol Daleithiau, gan roi cyfle iddynt chwarae pêl-droed cystadleuol ar lefel uwch a chael profiadau bywyd gwerthfawr sy’n mynd law yn llaw ag astudio dramor.

I ddysgu rhagor am yr Academi Pêl-droed Merched ffoniwch:
01792 284000
academy@gowercollegeswansea.ac.uk
andrew.stokes@gowercollegeswansea.ac.uk