Mae’n anrhydedd gan y Coleg fod yn gartref i Academi Pêl-droed De Cymru Pro:Direct, y cyntaf a’r unig un yng Nghymru!
Nod ein rhaglen hyfforddi helaeth yw paratoi chwaraewyr ar gyfer pontio i bêl-droed proffesiynol. Mae chwaraewyr yr Academi yn derbyn arweiniad a hyfforddiant arbenigol gan Hyfforddwyr Trwyddedig UEFA A ac FA ac yn cystadlu mewn gemau wythnosol yn Uwch-gynghrair ECFA. Maen nhw’n elwa ar raglenni ffitrwydd, adferiad a deiet ar lefel broffesiynol, mynediad i ffisiotherapi, a chynlluniau cryfder a chyflyru personol.
Mae Academi Pro:Direct yn ymrwymedig i helpu chwaraewyr i gyrraedd eu potensial llawn, gan gynnig rhaglenni i ddatblygu chwaraewyr tuag at ennill contractau proffesiynol. Yn ogystal, gall chwaraewyr ennill profiad gwerthfawr trwy ysgoloriaethau elit a theithiau i rai o’r cyfleusterau chwaraeon gorau yn y byd pêl-droed.
Mae’r Coleg yn gweithio’n agos gyda Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe, sy’n golygu y gall ein chwaraewyr fanteisio ar hyfforddwyr gwadd. Mae chwaraewyr yn elwa ar leoliadau gwaith lleol lle gallan nhw ennill sgiliau diwydiant a dod o hyd i gyfleoedd cyflogaeth. Adlewyrchir ein hymrwymiad i ragoriaeth yn llwyddiannau ein cyn-fyfyrwyr, y mae llawer ohonynt wedi mynd ymlaen i gael gyrfaoedd proffesiynol llwyddiannus. Mae cyn-fyfyrwyr nodedig yn cynnwys Ricky Owen, Nathanial Osbourne, Ollie Anderson, Caleb Demery, Tyler J Evans a Harvey Chapman. Mae gan ein hacademi bêl-droed lawer iawn o hyfforddwyr rhagorol, gan gynnwys hyfforddwr cynorthwyol Cymru dan 18, Andrew Stokes a Phrif Hyfforddwr Ysgolion Cymru, Richard South.
Ochr yn ochr ag Academi Pêl-droed Pro:Direct, gall chwaraewyr ddewis astudio ar un o gyrsiau niferus y Coleg sy’n cyd-fynd â’r slotiau a’r gemau hyfforddi, er enghraifft, Hyfforddiant a Pherfformiad Pêl-droed (Gwerth un/tri chymhwyster Safon Uwch).
Buddion
- Hyfforddiant a gemau:
- Sesiynau hyfforddi ddyddiol
- 12-14 awr o hyfforddiant gydag UEFA A a hyfforddwyr trwyddedig y Gymdeithas Bêl-droed bob wythnos
- Gemau cystadleuol wythnosol yn Uwch Gynghrair ECFA
- Ffilm VEO a dadansoddiad.
- Rhaglenni ffitrwydd, adferiad a deiet ar lefel broffesiynol:
- Mynediad ffisiotherapi
- Cynlluniau deiet a chyngor ar faeth
- Hyfforddiant cryfder a chyflyru, cynlluniau campfa a sesiynau ffitrwydd.
- Dilyniant:
- Rhaglenni i ddatblygu chwaraewyr tuag at ennill Contract Proffesiynol
- Llwybrau i brifysgolion y DU neu ysgoloriaethau pêl-droed yr Unol Daleithiau.
- Cyfleoedd eraill:
- Pecynnau ysgoloriaeth elit
- Profiad gwaith a chyfleoedd cyflogaeth
- Tocynnau gemau, teithiau o gwmpas stadiymau, gwibdeithiau, siaradwyr gwadd a gweithdai
- Cyfleoedd a digwyddiadau brand Nike
- Codau disgownt Pêl-droed Pro:Direct.
Hyfforddwyr
Richard South, Pennaeth Academi De Cymru PDA a Rheolwr y Tîm 1af:
Ymunodd Richard yn 2003, gan helpu i uno carfannau Abertawe a Gorseinon i greu Academi Pêl-droed Coleg Gŵyr Abertawe.
Mae gan Richard gyfoeth o brofiad, ar ôl gweithio i Ysgolion Pêl-droed Manchester United a Chlwb Pêl-droed Dinas Abertawe am dros 10 mlynedd. Mae hefyd wedi hyfforddi chwaraewyr dramor yn America, Asia ac Ewrop.
Andrew Stokes, Prif Hyfforddwr De Cymru PDA:
Yn gyn-fyfyriwr y Coleg, bu Andrew yn rhan annatod o’r Academi ers 2014. Mae wedi gweithio i Ysgolion Pêl-droed Manchester United, Bechgyn Ysgol Abertawe a Dinas Abertawe ac mae wedi hyfforddi chwaraewyr dramor yn America, Asia, Affrica ac Ewrop.
Mae Andrew yn meddu ar Drwydded UEFA A ac mae’n Addysgwr Hyfforddwr i Gymdeithas Pêl-droed Cymru yn ogystal â Rheolwr Cynghrair JD Cymru.
Ymunwch yr academi
Rydyn ni’n chwilio am y chwaraewyr gorau i ymuno â’r Academi hon. Os oes gennych ddiddordeb neu os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, e-bostiwch southwales@prodirectacademy.com.
Gallwch chi ddilyn yr Academi ar Instagram.
