Mae’r Swyddog Pontio ac Adolygu yn gallu eich helpu fel a ganlyn:
- Mynd i gyfarfodydd ysgol gyda chi a’ch rhieni/gwarcheidwaid i ddod i’n hadnabod ni cyn dechrau
- Llenwi’r ffurflen gais
- Eich dangos o gwmpas y campws lle byddwch chi’n astudio
- Trefnu sesiynau blasu
- Gweithio gyda gweithwyr proffesiynol eraill i sicrhau bod eich cyfnod pontio mor syml ag sy’n bosibl. Er enghraifft, gweithwyr cymdeithasol, ymgynghorwyr Gyrfa Cymru, cydlynwyr anghenion dysgu ychwanegol yr ysgol, timau meddygol a llawer mwy
- Datblygu Proffil Un Dudalen i sicrhau bod yr holl staff yn gwybod sut i’ch cefnogi yn y Coleg
- Sicrhau eich bod yn ganolog i’ch cyfnod pontio’ch hun a bod eich llais yn cael ei glywed drwyddi draw.
Bydd y cymorth a gynigiwn ni i chi cyn cyrraedd yn parhau drwy gydol eich amser gyda ni a bydd yn parhau ar ôl i chi adael.
Swyddog Pontio SBA
Sarah Evans
Sarah.Evans@gcs.ac.uk
Swyddog Pontio Prif Ffrwd
Tracy Macklin
Tracy.Macklin@gowercollegeswansea.ac.uk