Noson Agored Addysg i Oedolion | 9 Medi | Ewch i Eventbrite
Prentisiaethau
Coleg Gŵyr Abertawe yw un o’r prif ddarparwyr Prentisiaethau yng Nghymru, ac rydym yn cynnig ystod eang o raglenni prentisiaethau arobryn yng Nghymru a Lloegr.
Prentisiaethau yn Lloegr
Rydym yn cynnig amrywiaeth o raglenni prentisiaeth unigryw yn Lloegr, ac er ein bod wedi ein lleoli yn Abertawe, mae gennym staff ymroddedig yn Lloegr sy’n darparu hyfforddiant prentisiaeth.
Dod yn brentis
Mae prentisiaethau yn gyfle i chi ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn wrth ddatblygu sgiliau sy’n benodol i’ch proffesiwn dewisol. Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Gall pobl o bob oedran ymgymryd â phrentisiaethau, cyn belled â’u bod mewn cyflogaeth am o leiaf 16 awr yr wythnos. Os nad ydych yn gyflogedig ar hyn o bryd neu’n ystyried newid gyrfa, edrychwch ar ein prentisiaethau gwag isod.
Gallwch ddewis lefel prentisiaeth sy’n addas i chi trwy ddechrau ar lefel sylfaen, cyn cael cyfle i symud ymlaen i lefel uwch rheoli.
Dathlu ein prentisiaid
Mae ein Gwobrau Prentisiaethau blynyddol yn dathlu cyflawniadau ein prentisiaid, ein cyflogwyr a’u tiwtoriaid.
Swyddi Prentisiaethau Gwag
Darganfod cyfleoedd prentisiaeth o gyflogwyr lleol isod.
Prentis Gweinyddol (Sgiliau Digidol)
£8 yr awr (Manylion y cwrs)
Truck and Plant Assets
Llansamlet
Rhagfyr 2025
Dim gofynion mynediad. Graddau A-C mewn TGAU TGCh a Saesneg yn ddymunol. Gallai’r rhai sydd â gradd yn y maes pwnc hwn fod yn gymwys ar gyfer prentisiaeth ar y lefel hon. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 a/neu Lefel 3.
Prentis Gweinyddu Busnes
Cyfraddau prentisiaeth (Manylion y cwrs)
Meddygfa Tal-y-Bont
Pontarddulais
Rhagfyr 2025
Dim gofynion mynediad. Gallai’r rhai sydd â gradd yn y maes pwnc hwn fod yn gymwys i wneud prentisiaeth ar y lefel hon hefyd. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster Sgiliau Digidol ar gyfer Busnes Lefel 2 a/neu Lefel 3.
Prentis Ymgynghorydd Gwasanaeth Cwsmeriaid
Cyfraddau prentisiaeth (Manylion y cwrs)
Day's Motor Group
Plasmarl
Ionawr 2026
Dim gofynion mynediad. Mae gradd C neu uwch mewn TGAU Saesneg a TGCh yn ddymunol. Os oes gennych radd yn y maes pwnc hwn, mae’n bosibl y byddwch yn dal i fod yn gymwys i wneud prentisiaeth ar y lefel hon. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, byddwch yn ennill cymhwyster prentisiaeth Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 2 a/neu Lefel 3.
Prentis Gofal Plant (sy’n Siarad Cymraeg)
Cyfraddau prentisiaeth (Manylion y cwrs)
Abacus Day Nursery
Uplands
Rhagfyr 2025
Dim gofynion mynediad. Os oes gennych radd yn y maes pwnc hwn, nid ydych yn gymwys i wneud prentisiaeth ar y lefel hon. Ar ôl cwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus byddwch yn ennill cymhwyster Gofal Plant Lefel 2 a/neu Lefel 3.
Manteision prentisiaethau
Bydd darpar brentisiaid yn elwa mewn nifer o ffyrdd gwahanol drwy astudio prentisiaeth gyda’r Coleg, gan gynnwys:
- Ennill profiad ymarferol yn y byd go iawn
- Ennill cyflog wrth ymgymryd ag astudiaethau a hyfforddiant
- Cymorth gan diwtoriaid/aseswyr sydd â phrofiad helaeth o fewn y diwydiant
- Ennill cymhwyster a gydnabyddir gan y diwydiant
- Mynediad i'n gwasanaethau llyfrgell, yn ogystal â Smart Assessor
- Mynediad i Ganolfan Chwaraeon Coleg Gŵyr Abertawe, yn ogystal ag aelodaeth am bris gostyngol
- Prisiau gostyngol ar gyfer gwasanaethau a gynigir gan ein Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig (Broadway)
- Cymhwysedd i wneud cais am gerdyn myfyriwr prentisiaid NUS
- Mynediad at adnoddau dysgu Moodle a Canvas
Anrhydeddau
Anrhydeddau
Yn ddiweddar, enillodd Coleg Gŵyr Abertawe wobr Ehangu Cyfranogiad yng ‘Ngwobrau Beacon’ Cymdeithas y Colegau 2023/24. Mae’r cyflawniad hwn yn adlewyrchiad o fenter ‘Prentisiaethau i Bawb’ llwyddiannus y Coleg a’i effaith gadarnhaol ar gynyddu niferoedd recriwtio a chyfraddau cyflawniad prentisiaid ag anableddau, anghenion dysgu ychwanegol, cyflyrau iechyd corfforol neu feddwl.
Yn 2022/23, fe enillodd Coleg Gŵyr Abertawe Wobr Beacon ar gyfer Rhyngwladoldeb, o ganlyniad i’r amrywiaeth eang o fentrau a gynigir i ddatblygu ein dysgwyr, staff, cyflogwyr a chymunedau.
Hefyd yn 2022 fe enillodd y Coleg ddwy wobr yng Nghynhadledd Prentisiaethau Flynyddol y DU:
- Darparwr Prentisiaeth Iechyd a Gofal y Flwyddyn 2022
- Hyrwyddwr SEND y Flwyddyn (Darparwr) 2022
Ddwy flynedd yn ôl, fe wnaeth Rachel Jones, Cyfarwyddwr Dysgu Seiliedig ar Waith Coleg Gŵyr Abertawe ennill Gwobr Sefydliad y Cyfarwyddwyr Cymru (categori Sgiliau).
Enillodd y Coleg wobr Times Educational Supplement AU (TES) yn 2021 ar gyfer Rhaglen Brentisiaeth y flwyddyn.
Cawsom ein coroni hefyd yn enillwyr mewn dau gategori yng Ngwobrau AAC Blynyddol y DU yn 2021.
- Darparwr Prentisiaeth Digidol y Flwyddyn 2021
- Darparwr Prentisiaeth Peirianneg a Gweithgynhyrchu y Flwyddyn 2021
Yn ogystal, fe wnaethom ennill dwy wobr yng Ngwobrau AAC DU yn 2019
- Darparwr Prentisiaethau Iechyd a Gwyddoniaeth y Flwyddyn 2019.
- Cyfraniad Rhagorol i Ddatblygiad Prentisiaethau, Steve Williams 2019.

![]()
Cwestiynau Cyffredin
Cyfle i ddysgwyr ennill hyfforddiant ymarferol yn y byd go iawn wrth sicrhau cymhwyster cydnabyddedig.
Fel prentis, byddwch yn ennill cyflog wrth ddysgu, gan feithrin y wybodaeth, y sgiliau a’r profiad y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Dim o gwbl. Gall weithwyr proffesiynol profiadol ddefnyddio prentisiaethau i uwchsgilio a datblygu eu gyrfa. Rhaid i chi fod yn gyflogedig am o leiaf 16 awr yr wythnos yng Nghrymu.
Bydd hyd pob prentisiaeth yn amrywio yn dibynnu ar lefel y cymhwyster. Ond fel arfer, bydd prentisiaeth yn cymryd 12-24 mis i’w gwblhau.
Byddant yn dechrau unrhyw bryd yn ystod y flwyddyn, ond, efallai bydd rhai cyrsiau yn dechrau ym mis Medi, yn unol â’r flwyddyn academaidd.