Gweithrediadau Canolfan Gyswllt Lefel 3 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae Gweithrediadau Canolfan Gyswllt yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn i’r rhai y mae eu rôl yn ymwneud â gweithrediadau canolfan gyswllt a gwasanaeth cwsmeriaid. Mae dysgwyr yn debygol o fod yn defnyddio systemau cyfathrebu pwrpasol, trin manylion cyswllt cwsmeriaid trwy gyfryngau cyfathrebu a gwneud galwadau diwahoddiad.
Gellir defnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys asiantiaid canolfan gyswllt, gweithwyr desg gymorth, cynghorwyr gwerthu, cynghorwyr bancio ffôn, arweinwyr tîm gwerthu, goruchwylwyr, dadansoddwyr cymorth a rheolwyr canolfan gyswllt.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.
Gall y brentisiaeth ddechrau ar unrhyw adeg o’r flwyddyn. Mae’n cael ei haddysgu i grwpiau a/neu unigolion gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol trwy Teams/Skype/Zoom fel y bo’n briodol. Fel arfer bydd y dysgwyr yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r tiwtor/aseswr bob 3 i 4 wythnos.
Unedau gorfodol
- Datblygu effeithiolrwydd personol a sefydliadol mewn canolfan gyswllt
- Cydymffurfio â gweithdrefnau iechyd a diogelwch mewn canolfan gyswllt
Unedau dewisol
Bydd eich tiwtor/aseswr yn gweithio gyda chi i nodi pa unedau dewisol sy’n addas i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, ond rydym yn argymell y canlynol:
- Cyfrannu at reoli perfformiad mewn canolfan gyswllt
- Goruchwylio gweithgareddau gwasanaeth cwsmeriaid mewn canolfan gyswllt
- Cynnal gweithgareddau gwerthu uniongyrchol mewn canolfan gyswllt
- Arwain tîm i wella gwasanaeth cwsmeriaid
- Datblygu cysylltiadau gwaith â chydweithwyr
- Rheoli gwrthdaro mewn tîm
- Gosod amcanion a darparu cymorth i aelodau tîm
Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau gan dystion, arsylwadau, datganiadau personol a holi ynghylch gwybodaeth.