Gorchuddio Lloriau Lefel 2 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae’r brentisiaeth hon yn gyfle i ddatblygu sgiliau, ymddygiadau a gwybodaeth greiddiol i ddatblygu gyrfa ym maes gosod lloriau. Mi fydd yn gyfle i ymgymryd â rhaglen, gan alluogi dysgwyr i ennill arbenigedd technegol, profiad ymarferol a sgiliau ehangach angenrheidiol i symud ymlaen o fewn y sector.
Bydd prentisiaid yn cael mynediad at ddeunyddiau ac offer a fydd yn eu caniatáu i ddysgu a datblygu sgiliau mewn amgylchedd lle gallant hogi eu sgiliau. Byddant wedyn yn cael cyfle i ddychwelyd i’w cyflogwr a datblygu’r sgiliau hyn ymhellach mewn amgylchedd go iawn.
Gwybodaeth allweddol
Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth Lefel 2 hon, felly does dim angen unrhyw hyfforddiant na gofynion blaenorol.
Fodd bynnag, bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio yn y sector Lloriau a bydd angen iddynt fod â chontract cyflogaeth sy’n para mwy o amser na’r brentisiaeth ei hun.
Fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth, bydd disgwyl hefyd i ddysgwyr gwblhau:
- Lefel 1 - Cymhwyso Rhif
- Lefel 1 - Cyfathrebu
Cyflwynir y brentisiaeth trwy sesiynau ymarferol mewn gweithdy ag adnoddau gwych ynghyd â gwersi theori i ategu at y wybodaeth ymarferol a ddysgir yn y sesiynau ymarferol.
Diploma Lefel 2 - Unedau gorfodol
- Iechyd, diogelwch a lles ym maes adeiladu a diwydiannau cysylltiedig
- Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid
- Dealltwriaeth o dechnoleg adeiladu
- Deall gwybodaeth a meintiau a chyfathrebu ag eraill
- Paratoi arwynebau islawr er mwyn eu gorchuddio
- Paratoi lloriau er mwyn eu gorchuddio
- Gosod gorchuddion llawr, teils a chynfasau lloriau cadarn
- Gosod gorchuddion llawr tecstilau
Tystysgrif NVQ Lefel 2 - Unedau gorfodol
- Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
- Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol yn y gweithle
- Symud, trin a storio adnoddau yn y gweithle
- Asesu a pharatoi arwynebau ar gyfer gorchuddio lloriau yn y gweithle
- Paratoi a gosod is-haenau ar gyfer gorchuddion lloriau yn y gweithle
- Paratoi ar gyfer gosod gorchuddion llawr yn y gweithle
- Paratoi arwynebau i dderbyn cyn gosod lloriau
- Asesu a gwerthuso gorchuddion lloriau yn y gweithle
- Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid
NVQ Lefel 2 - Unedau dewisol
- Gosod gorchuddion llawr â thecstilau yn y gweithle
- Gosod gorchuddion llawr cadarn yn y gweithle
- Gosod gorchuddion llawr â thecstilau yn y gweithle
Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy asesiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig.
Diploma Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau
Dulliau asesu’r cymhwyster hwn yw profion amlddewis ac asesiadau ymarferol. O ran marcio, bydd pob uned yn cael eu graddio yn ôl y categorïau canlynol: pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Bydd asesiadau pob uned yn amrywio, a byddant yn cynnwys gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a thu allan i’r ystafell ddosbarth.
Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau
Wrth i ddysgwyr symud ymlaen i NVQ, byddant yn adeiladu e-borffolio o’r dystiolaeth y byddant yn ei ennill trwy weithgareddau ymarferol yn y gweithle, fel y gallant arddangos eu gwybodaeth a’u cymhwysedd. Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, gan gynnwys:
- Cwestiynau ac atebion
- Arsylwadau
- Tystiolaeth gan dystion
- Tystiolaeth o gynnyrch
- Astudiaethau Achos
- Trafodaethau Proffesiynol