Warysau Lefel 3 - Prentisiaeth
Trosolwg
Mae Warysau yn brentisiaeth wedi’i hariannu’n llawn sy’n rhoi cyfle cyffrous i ddysgwyr ennill cymhwyster cydnabyddedig er mwyn gweithio yn y sector warysau a storio. Achredir y rhaglenni gan City and Guilds.
Darperir y prentisiaethau fel cymwysterau annibynnol y gellir eu defnyddio i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae prentisiaeth Lefel 3 ar gyfer arweinwyr tîm, goruchwylwyr neu reolwyr.
Gwybodaeth allweddol
I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.
Bydd y dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas i’w rolau unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos i gynnal arsylwadau ar gyfer y meini prawf perfformio, a thrafod gofynion ar gyfer cwblhau datganiadau ysgrifenedig gan gwmpasu’r meini prawf gwybodaeth.
Bydd y meini prawf gwybodaeth yn ei gwneud yn ofynnol i ddysgwyr baratoi datganiadau yn eu hamser eu hunain.
Unedau gorfodol
- Cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid
- Goruchwylio derbyn, storio neu ddosbarthu nwyddau
- Cymryd cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch eich tîm
- Darparu arweinyddiaeth ar gyfer eich tîm
Unedau dewisol
- Dewis nwyddau mewn amgylcheddau logisteg
- Cadw mannau gwaith yn lân
- Symud a thrin nwyddau
- Derbyn nwyddau
- Prosesu archebion ar gyfer cwsmeriaid
- Storio nwyddau
- Cydosod archebion i’w dosbarthu mewn amgylcheddau logisteg
- Cadw stoc ar lefelau gofynnol
I gwblhau’r brentisiaeth yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn ymgymryd â gwaith sy’n berthnasol i’w rôl unigol a’u hamgylchedd dysgu. Caiff cymhwysedd ei asesu trwy arsylwi a chasglu tystiolaeth o’r cynnyrch. Caiff asesiadau a datganiadau eu hadolygu yn ystod y cyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda’r tiwtor/aseswr yn y gweithle. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Aseswr Clyfar, sef offeryn rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n rhoi modd i’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.