Cyflwyniad i Appliqué Peiriant Lefel 2
Trosolwg
Dewch i fwynhau nosweithiau cymdeithasol gyda’r tîm creadigol yn Llwyn y Bryn, lle byddwch chi’n cwrdd â phobl o’r un meddylfryd â chi wrth i chi archwilio’ch ochr greadigol a dysgu sgiliau appliqué newydd, p’un a ydych chi’n newydd i’r dechneg neu os ydych chi eisiau datblygu’r sgiliau sydd eisoes gennych.
Appliqué yw’r ffordd berffaith o ddefnyddio hen garpiau ffabrig neu uwchgylchu hen ddillad nad ydych chi eisiau cael gwared arnynt. Nid oes angen unrhyw brofiad gwnïo blaenorol, a gallwch fod yn llwyddiannus yn y dechneg heb fod yn greadigol iawn. Bydd hyfforddwr, a fydd yn bresennol ar hyd y daith gyfan, yn arddangos technegau cynllunio a phwytho mewn camau hawdd eu dilyn, a byddwch yn gallu dysgu technegau llaw a pheiriant.
Bydd y sesiynau tair awr yn rhoi digon o amser i ddysgu ac i ddod i adnabod eich cyd-grefftwyr dros baned. Ar ôl dysgu’r hanfodion, gallech chi greu clustogau, bagiau tôt, crogluniau a mwy.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad.
Addysgir y cwrs hwn gan diwtor cymwysedig a phrofiadol a’i asesu trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r eitem derfynol – ac mae hyn oll yn cael ei gofnodi yn y dosbarth.
Bydd yr holl eitemau a gynhyrchir yn cael eu cofnodi’n ffotograffig a’u cynnwys mewn gweithlyfrau wedi’u datblygu’n arbennig.
Addysgir y cwrs dros 10 wythnos, gyda un sesiwn tair awr yr wythnos.
- Parhad Cyrsiau Agored
- Celf a Dylunio Lefel 2
- Celf a Dylunio Lefel 3
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio
Darperir yr holl offer.