Cyflwyniad i Glytwaith Lefel Mynediad 3
Trosolwg
Dewch draw i fwynhau nosweithiau cymdeithasol gyda’r tîm creadigol yn Llwyn y Bryn, lle byddwch chi’n cwrdd â phobl o’r un meddylfryd â chi wrth i chi archwilio’ch ochr greadigol a dysgu sgiliau clytwaith newydd. Arbrofwch gyda llawer o wahanol arddulliau o glytwaith wedi’u creu trwy bwytho â llaw ac ar beiriannau gwnïo.
Unwaith y byddwch wedi dysgu’r sgiliau sylfaenol, cewch gyfle i arbrofi gyda dylunio a chreu eich eitem clytwaith unigryw eich hun fel clustog, bag neu flanced fach. Neu, gallech chi gynnwys eich darn clytwaith mewn hen ddilledyn rydych chi am ei uwchgylchu.
Mae’r cwrs hwn yn cynnwys 10 sesiwn tair awr, ac nid oes angen unrhyw brofiad o dechnegau clytwaith na gwnïo. Bydd y cwrs yn cael ei addysgu gan diwtor profiadol mewn fformat syml, hawdd ei ddilyn. Bydd pob agwedd ar iechyd a diogelwch yn cael ei briffio drwyddi draw.
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad.
Addysgir y cwrs hwn gan diwtor cymwysedig a phrofiadol a’i asesu trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r eitem derfynol – ac mae hyn oll yn cael ei gofnodi yn y dosbarth.
Bydd yr holl eitemau a gynhyrchir yn cael eu cofnodi’n ffotograffig a’u cynnwys mewn gweithlyfrau wedi’u datblygu’n arbennig.
Addysgir y cwrs dros 10 wythnos, gyda un sesiwn tair awr yr wythnos.
- Parhad Cyrsiau Agored
- Celf a Dylunio Lefel 2
- Celf a Dylunio Lefel 3
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.
Darperir yr holl offer.