Cyflwyniad i Wau â Llaw Lefel 1
Trosolwg
Ydych chi erioed wedi bod eisiau dysgu gwau, neu ydych chi wedi ceisio yn y gorffennol ac wedi cael trafferth mynd i’r afael â’r grefft? Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle delfrydol i ddysgu a datblygu eich sgiliau mewn cyfres o weithdai ymarferol gyda thiwtor profiadol. Byddwch yn dysgu sut i ddal y gweill tra byddwch yn defnyddio’r edafedd, creu pwythau syml fel pwyth plaen a phwyth o chwith, ystofi pwythau a chau pwythau, siapio eitem ac uno paneli gorffenedig gyda’i gilydd.
Bydd llawer o brosiectau i ddechreuwyr a datblygwyr i’w cyflawni unwaith y byddwch wedi dysgu’r hanfodion. Gallech chi greu blanced, sgarff, het neu efallai hyd yn oed gap ŵy Nadolig i addurno eich bwrdd brecwast fore Nadolig! Ond ni fydd yn waith caled i gyd, bydd amser i sgwrsio a chymdeithasu dros baned hefyd.
Cofrestrwch i ddysgu popeth roeddech chi am ei wybod am y grefft hynafol o wau, a gwnewch bethau hyfryd, ymarferol!
Gwybodaeth allweddol
Nid oes angen profiad.
Addysgir y cwrs hwn gan diwtor cymwysedig a phrofiadol a’i asesu trwy weithgareddau ymarferol, tystiolaeth ysgrifenedig/weledol a’r eitem derfynol – ac mae hyn oll yn cael ei gofnodi yn y dosbarth.
Bydd yr holl eitemau a gynhyrchir yn cael eu cofnodi’n ffotograffig a’u cynnwys mewn gweithlyfrau wedi’u datblygu’n arbennig.
Addysgir y cwrs dros 10 wythnos, gyda un sesiwn tair awr yr wythnos.
- Parhad Cyrsiau Agored
- Celf a Dylunio Lefel 2
- Celf a Dylunio Lefel 3
- Diploma Sylfaen mewn Celf a Dylunio.
Darperir yr holl offer.