Blas ar Yr Eidal
Trosolwg
Bob wythnos, meistrolwch y grefft o baratoi a choginio dwy rysáit Eidalaidd glasurol – yn union fel roedd mama yn arfer eu gwneud!
Cynllun addysgu:
- Wythnos 1- Cyflwyniad i’r cwrs ac arddangosiad coginio gan eich tiwtor
- Wythnos 2- Sesiwn ymarferol
- Wythnos 3- Sesiwn ymarferol
- Wythnos 4- Sesiwn ymarferol
- Wythnos 5- Sesiwn ymarferol a gwerthuso’r cwrs.
Gwybodaeth allweddol
Mae’r cwrs hwn yn addas i ddechreuwyr neu’r rhai a hoffai ddatblygu eu gwybodaeth o goginio.
Addysgir yn bennaf yn yr ystafell ddosbarth, gyda gweithgareddau ymarferol. Oherwydd natur analwedigaethol y cwrs, ni chwblheir unrhyw asesiadau ffurfiol.
Dosbarthiadau coginio pellach (anachrededig).
Cewch restr lawn o gynnwys y cwrs ynghyd â ryseitiau fel rhan o’r wers gyntaf, ac yn ystod y wers honno byddwch hefyd yn cael rhaglen sefydlu’r coleg, briff iechyd a diogelwch ac arddangosiad ymarferol gan diwtor y cwrs.
Gwybodaeth hanfodol - bydd gofyn i chi ddarparu’r canlynol:
- Yr holl gynhwysion (tua £10 yr wythnos)
- Dillad gwarchod (cot neu ffedog wen a het neu rwyd wallt).
Hylendid a diogelwch:
- Ni chaniateir gemwaith yn y gegin
- Rhaid clymu gwallt hir yn ôl a’i roi mewn rhwyd wallt
- Ni chaniateir ewinedd gel na farnais ewinedd.
- Rhaid gwisgo esgidiau gwastad, caeedig, di-lithr.