Dewch yn llu i’n ffair sborion beiciau yn ystod ein Penwythnos Iechyd a Lles.
Prynwch neu gwerthwch unrhyw beth sy’n ymwneud â seiclo… o feiciau heol, BMX, MTB, i feiciau cymudo neu hamdden.
Ydych chi am werthu neu brynu:
- Beiciau neu rannau anghyffredin neu ail-law
- Beiciau modern ail-law
- Rhannau, offer, dillad a chyfarpar ail-law neu newydd
- Offer sy’n ymwneud â beicio
Dyma gyfle gwych i’r rhai sydd am werthu cyfarpar beicio ail law ac i’r rhai sy’n chwilio am fargen.
Os ydych chi am ennill rhywfaint o arian neu’n dymuno cynilo ar gyfer prynu cyfarpar beicio, dewch draw i Ffair Sborion Beiciau Coleg Gŵyr Abertawe:
Dydd Sul 5 Chwefror 2023. 8am-12pm.
Neuadd Chwaraeon Tycoch.
Gwybodaeth i Werthwyr
- Bwcio lle - £10.00
- Bwrdd - £5.00 (neu dewch â’ch bwrdd eich hun)
- Amser paratoi - 7am, yn barod ar gyfer agor i gwsmeriaid am 8am.
- Digon o fannau parcio ar gael sy’n agos i’r neuadd, fel gallwch baratoi mewn da bryd
- Bwciwch ar-lein trwy Eventbrite i sicrhau lle
Gwybodaeth i Brynwyr
- Tocynnau i gael mynediad cynnar, 8-9am - £2.00, (bydd y ffioedd yn cael eu rhoi i Llys Nini)
- Mynediad am ddim ar ôl 9am
- Diodydd poeth AM DDIM i bawb sy’n seiclo yma. Bydd digon o fannau storio diogel ar y safle ar gyfer y beiciau, a byddwn yn cadw eich nwyddau nes y byddwch yn barod i’w casglu’r diwrnod canlynol - felly gwnewch yn siŵr bod aelod o’ch tîm yn barod i alw heibio
Ar gyfer ymholiadau masnachu neu am wybodaeth bellach, e-bostiwch: sportscentre@gcs.ac.uk
Cliciwch yma i weld beth arall sy’n digwydd yn ystod y Penwythnos Iechyd a Lles