Wrth i dymor y gaeaf ddechrau a’r Nadolig agosáu, y newyddion da yw bod cyfraddau COVID yng Nghymru yn parhau i ddisgyn.
Ond, yn y cyfryngau yn ddiweddar bu nifer o straeon am heintiau anadlu yn y gymuned gan gynnwys y ffliw, COVID a heintiau bacterol eraill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi diweddaru eu canllawiau yn ddiweddar i bobl sy’n dioddef gyda symptomau o haint anadlu ac rydyn ni’n teimlo, fel Coleg, ei bod yn bwysig tynnu eich sylw at hyn fel y gallwch fod yn fwy ymwybodol o sut i’ch amddiffyn eich hunain rhag haint.
Mae’r canllawiau i’w gweld yma ac mae’r wybodaeth ddiweddaraf i’w gweld mewn glas.
Y neges allweddol yw bod pawb yn parhau i gynnal safonau hylendid uchel fel golchi/diheintio dwylo’n rheolaidd drwy gydol y dydd ac, yn bwysicaf oll, lleihau cyswllt corfforol ag eraill os ydyn ni’n teimlo’n dost (ddylech chi ond ailddechrau gweithgareddau dyddiol arferol a dechrau cymysgu gydag eraill pan fyddwch chi’n teimlo’n well).
Drwy ddilyn y negeseuon syml hyn gallwn ni barhau i gadw’r Coleg a’r gymuned ehangach yn iach ac yn ddiogel.