Skip to main content

Dilyniant i Addysg Bellach Lefel 2

Amser-llawn
Lefel 2
Tycoch
Un flwyddyn

Trosolwg

Mae’r cwrs blwyddyn hwn yn addas i unrhyw un rhwng 16 ac 19 oed sy’n ansicr ynghylch y llwybr gyrfa yr hoffai ei ddilyn. Mae’r cwrs hwn yn cynnig cyfle i flasu amrywiaeth o bynciau gwahanol. Gallai’r rhain gynnwys:*

  • Y Corff dynol ac anatomi
  • Gwydnwch
  • Ffotograffiaeth ddigidol
  • Technoleg ddigidol
  • Gwyddoniaeth fforensig
  • Iechyd ac afiechyd.

*gallai hyn newid. 

Gwybodaeth allweddol

Pedwar gradd TGAU gradd D neu uwch, gan gynnwys Saesneg, neu radd Teilyngdod o gwrs Diploma Lefel 1.

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth ac fe’i hasesir yn barhaus drwy aseiniadau. Does dim arholiadau. Bydd methu â dod i’r darlithoedd yn rheolaidd yn peryglu gallu’r myfyriwr i gwblhau’r cymhwyster llawn.

Cyrsiau Lefel 3 / cyrsiau Mynediad / prentisiaethau neu gyflogaeth