Skip to main content

Tylino Swedaidd Lefel 3 - Tystysgrif Available in Welsh

Rhan-amser
Lefel 3
VTCT
Broadway Hair and Beauty Centre, Tycoch
30 wythnos
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284049 (Broadway)

Trosolwg

Mae VTCT Tystysgrif Lefel 3 mewn Tylino Swedaidd yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel therapydd harddwch (tylino Swedaidd). 

Drwy gydol y cymhwyster hwn byddwch yn datblygu eich gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg, iechyd a diogelwch, a gofal cleientiaid. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol gan roi modd i chi ddarparu triniaethau tylino ymlaciol gan ddefnyddio symudiadau tylino Swedaidd clasurol. Byddwch chi hefyd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol a fydd yn eich helpu i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid. 

  • Darparu triniaeth tylino corff 
  • Gofalu am gleientiaid a chyfathrebu â nhw mewn diwydiannau cysylltiedig â harddwch 
  • Monitro a chynnal arferion iechyd a diogelwch yn y salon.

Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT

 

Gwybodaeth allweddol

  • Cyfweliad 
  • Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1. 

Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.  

Mae cyfleoedd gyrfa fel therapydd harddwch (tylino Swedaidd) yn cynnwys gweithio mewn salonau harddwch masnachol, sbas dydd, llongau mordeithio neu weithio’n annibynnol, yn hunangyflogedig, fel gweithiwr symudol neu gartref. 

Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs. 

Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad. 

Off