Adweitheg Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Mae VTCT Diploma Lefel 3 mewn Adweitheg yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel adweithegwr. Mae’r cymhwyster galwedigaethol hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel adweithegwr wrth ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol i ddarparu gwasanaethau aromatherapi’n gymwys.
Drwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol gan roi modd i chi ddefnyddio technegau adweitheg ar gyfer ymlacio ac i hyrwyddo hunaniacháu i’ch cleientiaid. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol fydd yn eich cynorthwyo i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid.
- Darparu adweitheg ar gyfer therapïau cyflenwol
- Egwyddorion ac arferion therapïau cyflenwol
- Arferion busnes ar gyfer therapïau cyflenwol
- Gwybodaeth o anatomeg, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol.
Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.
Gwybodaeth allweddol
- Cyfweliad
- Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1.
Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.
Mae cyfleoedd gyrfa fel adweithegwr yn cynnwys gweithio mewn clinigau therapi cyflenwol, ysbytai GIG, cartrefi gofal neu weithio’n annibynnol.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.
Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.