Aromatherapi Lefel 3 - Diploma
Trosolwg
Mae VTCT Diploma Lefel 3 mewn Aromatherapi yn gymhwyster galwedigaethol sylweddol a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa fel aromatherapydd. Mae’r cymhwyster galwedigaethol hwn yn cynnwys yr holl elfennau gofynnol i weithio’n effeithiol fel aromatherapydd wrth ddatblygu eich dealltwriaeth a’ch sgiliau ymarferol i ddarparu gwasanaethau aromatherapi’n gymwys.
Drwy gydol y cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu’ch gwybodaeth a’ch dealltwriaeth o anatomeg a ffisioleg berthnasol, iechyd a diogelwch, gofal cleientiaid ac olewau naws. Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau technegol gan roi modd i chi gyfuno’r olewau naws mewn ffordd sydd wedi’i theilwra ar gyfer pob cleient a darparu triniaethau tylino aromatherapi gan ddefnyddio technegau tylino gwahanol. Byddwch hefyd yn datblygu sgiliau rhyngbersonol fydd yn eich cynorthwyo i gyfathrebu’n effeithiol â chleientiaid.
- Darparu aromatherapi ar gyfer therapïau cyflenwol
- Egwyddorion ac arferion therapïau cyflenwol
- Arferion busnes ar gyfer therapïau cyflenwol
- Gwybodaeth o anatomeg, ffisioleg a phatholeg ar gyfer therapïau cyflenwol.
Manyleb lawn y cwrs ar wefan VTCT.
Gwybodaeth allweddol
- Cyfweliad
- Bydd angen i ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt feddu ar gymhwyster ESOL Lefel 1.
Asesiad ymarferol parhaus, arholiadau, astudiaethau achos ac aseiniadau ysgrifenedig. Bydd disgwyl i fyfyrwyr astudio gartref, gan gynnwys gwaith cwrs ysgrifenedig ac ymarferol.
Mae cyfleoedd gyrfa fel aromatherapydd yn cynnwys gweithio mewn clinig therapi cyflenwol, mewn ysbyty GIG, cartref gofal neu weithio’n annibynnol.
Rhaid i ddysgwyr brynu cit a gwisg fel rhan o’u cwrs.
Byddwn yn cadarnhau costau yn ystod y cyfweliad.