Mae tîm Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe wedi cael ei enwi’n Dîm y Flwyddyn (Sector Cyhoeddus) yn seremoni fawreddog Gwobrau AD Cymru 2021.
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi ennill y wobr hon, mae’n cydnabod ein gwaith caled a’n hymrwymiad i gynnal gweithlu positif a brwdfrydig ar draws y sefydliad,” dywedodd y Cyfarwyddwr AD, Sarah King. “Mae ein strategaeth yn ymwneud â gofalu am bobl a’u cysylltu, yn seiliedig ar dair colofn allweddol sef cydnabyddiaeth, lles a chymorth.”
Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae’r Coleg wedi cyflawni nifer o gerrig milltir trawiadol, megis ennill safonau iechyd corfforaethol efydd, arian ac aur ac, yn ystod y broses hon, nododd yr asesydd fod ‘diwylliant cadarnhaol y Coleg yn ddiriaethol ac mae’n esiampl o arferion rhagorol’.
Mae darpariaeth lles helaeth wedi cael ei chyflwyno, gyda staff yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn amrywiaeth o weithgareddau, gweithdai a sesiynau gwybodaeth rhad ac am ddim sy’n hybu iechyd corfforol a meddyliol.
Mae'r Coleg yn cynnal diwrnod iechyd a lles blynyddol, a barhaodd dros y pandemig gyda gweminarau rhithwir, cwisiau, clybiau llyfrau a dosbarthiadau ymarfer corff.
Cyflwynwyd seremoni wobrwyo Gwasanaeth Hir hefyd i gydnabod a diolch i staff am eu teyrngarwch tuag at y Coleg.
Mae mentrau diweddar eraill yn cynnwys diwrnodau ymwybyddiaeth ynghylch y menopos, materion LGBTQ+ a lles ariannol.
Yn ogystal ag ennill teitl Tîm AD y Flwyddyn (Gwasanaeth Cyhoeddus), roedd y Coleg hefyd ar y rhestr fer mewn dau gategori arall - Ysbrydoli Arweinyddiaeth Wych a’r Fenter AD Orau.