Skip to main content

Datganiad wedi’i ddiweddaru ar bresenoldeb yr heddlu ar Gampws Tycoch (14 Ebrill)

Ar noson 13 Ebrill, rhoddwyd gwybod i’r Coleg am nifer o fygythiadau a wnaed ar y cyfryngau cymdeithasol a gyfeiriwyd tuag at Gampws Tycoch.

Roedd y Coleg wedi cysylltu â Heddlu De Cymru ar unwaith ac rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’u swyddogion ers hynny i barhau i sicrhau iechyd a diogelwch pawb ar y campws.

Mae myfyriwr unigol bellach wedi cael ei adnabod a byddwn yn delio â’r mater yn unol â gweithdrefn ddisgyblu’r Coleg.

Diolch i bawb am eu hamynedd a gobeithio mai dyma ddiwedd y mater anffodus hwn.