Ch-Dde: Libby O'Sullivan, Ellen Jones, Edan Reid
Mae chwe myfyriwr Safon Uwch o Goleg Gŵyr Abertawe wedi cael cynnig lleoedd i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen neu Brifysgol Caergrawnt yn 2021.
“Ar ôl yr hyn a fu’n flwyddyn academaidd heriol iawn i bawb, rydyn ni’n falch iawn o’r cynigion hyn, oherwydd mae’r myfyrwyr hyn wedi dod i Goleg Gŵyr Abertawe o bum ysgol uwchradd wahanol, ac maen nhw’n mynd i chwe Choleg gwahanol i astudio chwe phwnc hollol wahanol felly mae amrywiaeth go iawn yma, sydd bob amser yn dda i’w weld,” meddai’r Pennaeth Mark Jones.
“Mae’n arbennig o braf gan fod cyflwyno graddau a asesir yn y ganolfan wedi golygu bod hon yn flwyddyn hyd yn oed yn fwy cystadleuol i fyfyrwyr o ran sicrhau lleoedd yn y prifysgolion nodedig hyn.
Mae’r holl fyfyrwyr hyn yn dilyn Rhaglen Rhydgrawnt ar Gampws Gorseinon, sy’n ceisio darparu’r paratoad gorau posibl i fyfyrwyr sy’n bwriadu symud ymlaen i Rydychen, Caergrawnt a phrifysgolion Russell Group eraill.
Enw |
Ysgol Flaenorol |
Cynigiwyd lle yn |
I astudio |
Bethany Baljak |
Pontarddulais |
Coleg Lucy Cavendish, Caergrawnt |
Ieithyddiaeth |
Emily Griffiths |
Pontarddulais |
Coleg St Hilda, Rhydychen |
Archaeoleg Glasurol a Hanes yr Hen Fyd |
Ellen Jones |
Bryngwyn |
Coleg St Anne, Rhydychen |
Seicoleg Arbrofol |
Libby O’Sullivan |
Cwmtawe |
Coleg Churchill, Caergrawnt |
Y Gyfraith |
Edan Reid |
Penyrheol |
Coleg Gonville a Caius, Caergrawnt |
Milfeddygaeth |
Jack Spiller |
Olchfa |
Coleg Christchurch, Rhydychen |
Peirianneg |
“Pan ges i fy nghynnig, doeddwn i ddim yn gallu credu’r peth,” dywedodd Libby O’Sullivan. “Roedd yn rhaid i mi gael fy nhad i’w ddarllen hefyd, i gadarnhau bod y peth yn wir! Dechreuodd y ddau ohonon ni neidio o gwmpas a sgrechian gyda chyffro. Dwi’n edrych ymlaen yn fawr at gwrdd â phobl newydd yng Nghaergrawnt ac wrth gwrs, y dyrnu! Hoffwn ddweud diolch yn fawr i Felicity Padley a Fiona Beresford o Goleg Gŵyr Abertawe am eu cymorth a’u cefnogaeth anhygoel ar hyd y ffordd.”
“O oedran ifanc iawn roeddwn i â’m bryd ar astudio milfeddygaeth ac mae cael cynigion i astudio’r cwrs yn wych - mae’r ffaith bod gen i gynnig gan Brifysfgol Caergrawnt i wneud hyn yn gyfle anhygoel,” ychwanegodd Edan. “Roeddwn i fel y gog pan ges i’r e-bost ond yn methu credu fy llygaid. Gobeithio y bydda i’n gallu cael y graddau gofynnol a chychwyn ar fy nhaith tuag at yr yrfa o’m dewis.”
“Roeddwn i’n falch iawn o dderbyn fy nghynnig gan Brifysgol Rhydychen, roedd yn bleser annisgwyl,” dywedodd Ellen. “Dwi’n edrych ymlaen at archwilio seicoleg yn llawer mwy manwl a datblygu fy niddordeb angerddol yn y pwnc. Mae’n ddisgyblaeth sy’n newid yn gyson a dwi’n gobeithio gweld hynny drosof fy hun wrth i mi astudio ymhellach. Yn y dyfodol, dwi’n gobeithio adnabod y maes penodol o seicoleg dwi’n ei garu a dilyn hwn ar lefel academaidd uwch trwy gwblhau gradd Meistr efallai.
Mae Rhaglen Rhydgrawnt y Coleg yn cynnwys sesiynau tiwtorial wythnosol, cyfweliadau paratoi gyda chyn-fyfyrwyr Rhydgrawnt a gweithwyr proffesiynol academaidd lleol, prawf gallu a pharatoi ar gyfer asesu mewn pynciau perthnasol.
Ar wahoddiad Prifysgol Caergrawnt, Coleg Gŵyr Abertawe yw’r unig sefydliad AB neu ysgol wladol yng Nghymru sydd wedi cael ei ddewis i redeg y rhaglen HE+. Gan weithio ochr yn ochr â Rhaglen Seren Llywodraeth Cymru mae HE+ yn ceisio datblygu sgiliau academaidd ac ysbrydoli myfyrwyr i anelu’n uchel wrth wneud eu dewisiadau prifysgol.