Trin Gwallt Menywo Lefel 2 - Tystysgrif
Trosolwg
Yn ystod y cwrs hwn, byddwch yn datblygu sgiliau trin gwallt sylfaenol a gweithio ar gleientiaid a’ch modelau eich hun mewn amgylchedd salon masnachol. Mae meysydd astudio’n cynnwys:
- Iechyd a diogelwch
- Gweithio yn y diwydiant gwallt
- Ymgynghori â chleientiaid
- Siampŵo a chyflyru gwallt
- Chwythsychu a setio gwallt
- Lliwio a goleuo gwallt
- Torri gwallt menywod.
Bydd asesiadau parhaus drwy gydol y flwyddyn academaidd gan gynnwys arsylwadau ymarferol ar gleientiaid a modelau yn y salon. Bydd profion ar-lein a gwaith aseiniad a ddefnyddir i asesu gwybodaeth theori ar gyfer pob uned.
Gwybodaeth allweddol
- Amrywiaeth o raddau D neu uwch ar lefel TGAU, gan gynnwys, yn ddelfrydol, Saesneg Iaith a Mathemateg neu gymhwyster Trin Gwallt Lefel 1
- Bydd angen cymhwyster ESOL Lefel 1 ar yr ymgeiswyr nad yw’r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt
- Bydd angen i ddysgwyr fod yn uchel eu cymhelliant ac yn frwdfrydig â sgiliau cyfathrebu da a’r gallu i weithio mewn tîm.
Byddwch yn dod i’r Coleg am 1 noson yr wythnos 5-9 pm.
Bydd y rhan fwyaf o’ch amser yn cael ei dreulio yn y salonau masnachol gan ddatblygu sgiliau ymarferol a gweithio ar gleientiaid neu eich modelau eich hunain. Yn ogystal, bydd gwersi yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer gwybodaeth theori.
Bydd dysgwyr yn cael cyfle i symud ymlaen i gwrs amser llawn neu ran-amser Trin Gwallt Lefel 3.