Mae adran Adnoddau Dynol Coleg Gŵyr Abertawe yn gobeithio ennill gwobr fawr arall.
Mae’r tîm wedi cyrraedd y rhestr fer yn y categori Tîm Mewnol Gorau yng Ngwobrau CIPD Cymru, a gynhelir yn Neuadd y Ddinas Caerdydd ar 15 Tachwedd.
Mae'r wobr benodol hon yn cydnabod timau AD sydd wedi cydweithio’n agos i sicrhau gwerth trwy fentrau ac arferion sy’n canolbwyntio ar bobl.
Yn ystod y broses o lunio rhestr fer, roedd y beirniaid yn chwilio am dystiolaeth o sut mae’r tîm yn cefnogi ac yn datblygu aelodau’r tîm; yn sicrhau canlyniadau trwy waith tîm effeithiol; ac yn cydweddu ei amcanion ag amcanion cyffredinol y sefydliad, gan gael effaith gadarnhaol ar berfformiad gweithwyr a busnes.
“Rydyn ni wrth ein bodd ein bod ni wedi cyrraedd rhestr fer Gwobrau mawreddog CIPD Cymru,” meddai’r Cyfarwyddwr AD Sarah King. “Mae gen i dîm anhygoel rydw i’n wirioneddol falch ohono ac rydyn ni wedi gwneud cynnydd gwirioneddol yn ystod y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu’r agenda lles a gwneud yr adran Adnoddau Dynol yn fwy cefnogol sy’n canolbwyntio ar bobl.”
Mae 2019 wedi bod yn dipyn o flwyddyn i dîm AD y Coleg. Fe wnaethant gipio tair gwobr yng Ngwobrau AD Cymru - am y Defnydd Gorau o’r Iaith Gymraeg, Seren AD a Chyfarwyddwr AD y Flwyddyn. Cafodd y Coleg ei gydnabod hefyd gan Lywodraeth Cymru am ei safon uchel o arferion iechyd a lles ar gyfer ei staff trwy ennill gwobr aur y Safon Iechyd Corfforaethol.