Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi arwyddo cytundeb bartneriaeth ‘Chwaer Ysgol’ gydag Ysgol Uwchradd No.49 Wuhan, Tsieina. Mae’r ddau bartner wedi cytuno i gymryd rhan mewn cyfnewidiau staff a myfyrwyr ac wedi cytuno i rannu arferion da.
Mae Wuhan yn chwaer-ddinas swyddogol i Abertawe. Mae cysylltiadau’r ddwy ddinas yn dyddio yn ôl i’r 1800au pan oedd Griffith John, cenhadwr arloesol o Abertawe, yn byw yn yr ardal. Sefydlodd John un o ysbytai mwyaf Tsieina yn ystod y cyfnod hwn, sef Ysbyty Undeb Wuhan.
Gobeithir y bydd grŵp o fyfyrwyr ac athrawon o Wuhan yn ymweld â’r Coleg eleni ar gyfer taith astudio.