Roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe wedi perfformio’n eithriadol o dda yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol UK LIVE WorldSkills yn NEC Birmingham yn ddiweddar.
Enillodd y myfyriwr Peirianneg Electronig Jamie Skyrme Fedal Aur yn y categori Electroneg Ddiwydiannol ar ôl ymgymryd â set heriol o dasgau cystadlu gan gynnwys canfod namau, dylunio electronig, rhaglennu a phrototeipio.
Yn y categori Gwasanaethau Bwyty, enillodd Paulina Skoczek Fedal Arian ac enillodd Paige Jones Fedal Efydd. Roedd eu tasgau’n cynnwys paratoi moctels, coffi hufen Cointreau, flambé a the prynhawn siampên.
“Rydyn ni’n falch iawn dros Jamie – a dros ei gyd-fyfyriwr Matthew Belton oedd hefyd wedi cyrraedd rowndiau terfynol y DU,” dywedodd Arweinydd Cwricwlwm Peirianneg Electronig, Steve Williams. “Yn ogystal â’n myfyrwyr oedd yn cystadlu, roedd Richard Kostromin a Callum Elsey hefyd wedi rhedeg arddangosfa ryngweithiol ar thema gosodiadau cartref CLYFAR. Roedd gallu cynnal yr arddangosfa a rhyngweithio â’r miloedd o ymwelwyr â’r stondin yn brofiad gwych a wnaeth godi ein hyder.”
“Dyma’r bedwaredd flwyddyn yn olynol i fyfyrwyr Lletygarwch ac Arlwyo o Goleg Gŵyr Abertawe gyrraedd rowndiau terfynol y digwyddiad nodedig hwn,” ychwanegodd y Rheolwr Maes Dysgu Mark Clement. “Roedden ni mor falch bod Paige a Paulina wedi cael y cyfle gwych hwn i ddangos eu sgiliau a chystadlu ar lefel mor uchel.”
“Mae ein medalau Aur, Arian ac Efydd wedi sicrhau bod Coleg Gŵyr Abertawe wedi gorffen yn y 10 uchaf o’r colegau gorau yn y DU o ran sgorau WorldSkills, mae hyn yn llwyddiant bendigedig,” dywedodd y Pennaeth Mark Jones. “Diolch a llongyfarchiadau i’r myfyrwyr, a weithiodd mor galed i baratoi ar gyfer cystadleuaeth WorldSkills , ond hefyd i’r timau addysgu ymroddedig sydd wedi eu mentora yn ystod pob cam o’r broses.”