Cyn diweddu am yr haf bu staff Canolfan Gwallt, Harddwch a Holistig Broadway yn mwynhau Diwrnod Dathlu’r Gymraeg yn rhan o wythnos hyfforddiant mewn swydd.
I ddechrau’r diwrnod gyda bach o hwyl, bu’r comediwyr Ignacio Lopez a Daniel Glyn. Dilynodd Bethan Mair gyda sesiwn yn trafod tarddiad enwau lleoedd Cymreig. Bu helfa drysor Gymraeg gan ddefnyddio’r ap Geiriaduron i chwilio am y fersiwn Saesneg o eiriau allweddol yn y salon - tasg fach gallant addasu i’w myfyrwyr.
Ar ôl cinio blasus o fwydydd Cymreig, bu Sgiliaith yn hyfforddi’r staff ar sut gallant gynnwys mwy o Gymraeg yn eu sesiynau dysgu nhw. Gorffennwyd gyda Tara Ramm yn diddanu gyda medlai o ganeuon Cymreig.
“Dyma ffordd wych, hwyliog a phositif i orffen y tymor,” meddai Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd. “Bu pawb yn addo gwneud un peth tuag at y Gymraeg yn y flwyddyn academaidd newydd - bydd y rhain i gyd i’w gweld fyny yng Nghanolfan Broadway.”