Roedd pawb at eu gwaith yng Ngholeg Gŵyr Abertawe pan ddaeth llysgennad yr Elyrch, Lee Trundle, i gefnogi ymgyrch casglu sbwriel newydd sbon ar gampws Tycoch.
Fel rhan o’r ymgyrch, bydd grŵp tiwtorial gwahanol o Dycoch yn patrolio’r ardal o amgylch y campws bob dydd Iau, gan wirio pedwar llwybr yn Nhycoch/Sgeti a chan ddefnyddio cyfarpar a roddwyd yn garedig iawn gan Ddinas a Sir Abertawe.
Gwirfoddolodd 20 o fyfyrwyr yr Academi Pêl-droed, wedi newydd ddychwelyd o’u taith yn chwarae ym Mhortiwgal, i wneud y casgliad sbwriel cyntaf ochr yn ochr â myfyrwyr o’r Adran Byw’n Annibynnol, a chasglodd un grŵp yn unig bum bag o sbwriel!
“Mae ein myfyrwyr am sicrhau eu bod yn chwarae eu rôl nhw wrth gadw’r ardal yn daclus ac maent wedi bod yn poeni’n benodol am effaith sbwriel ar fywyd gwyllt,” meddai Alison Booth, Tiwtor Arweiniol i Gorseinon, Broadway a Llys Jiwbalî. “Mae’r Coleg yn rhan ganolog o’r gymuned ac roeddem ni am lansio cynllun a fyddai’n galluogi i’n myfyrwyr fod hwnt ac yma, yn gofalu am yr amgylchedd lleol ac yn datblygu cysylltiadau gyda’n cymdogion.”
Hefyd yn bresennol oedd y Cyng. Cheryl Philpott, y Cyng. Clive Lloyd, Stuart Rees a Thomas Williams o Gyngor Abertawe, a Mark Parker, Swyddog Cymorth Cymunedol yr Heddlu.