Bu’n bleser mawr gan Goleg Gŵyr Abertawe gynnal cyfres o ddigwyddiadau’r wythnos diwethaf ar Gampws Tycoch wrth i Academi Radio 1 yn Theatr y Grand Abertawe ym mis Mai nesáu.
Ddydd Gwener 20 Ebrill, cafodd myfyrwyr y cyfle i gymryd rhan mewn gweithdy holi ac ateb gyda DJ Matt Edmondson o Radio 1 y BBC lle cafwyd cyfle iddynt ddysgu sut mae gwneud darllediad byw a chyfrinachau’r grefft sy’n rhan ohono.
Yna, ddydd Sadwrn 21 Ebrill, gwahoddwyd aelodau’r cyhoedd, ynghyd â myfyrwyr y Coleg, i ddigwyddiad Life Hacks Live Radio 1 a arweiniwyd gan DJ Katie Thistleton a oedd yn trafod ymdopi â phwysau a magu hyder. Roedd y siaradwyr gwadd yn cynnwys seren y Gweilch a chwaraewr rhyngwladol Cymru dan 21 oed, Keelen Giles, a’r flogiwr ffasiwn, Emma Tamsin. Hefyd yn rhoi ei farn ar fywyd oedd y cerddor Tom Grennan a berfformiodd set acwstig.
Hefyd ddydd Sadwrn, darlledodd Radio 1 yn fyw o’r Coleg rhwng 1pm a 4pm, dan arweiniad DJ Matt Edmondson a’i gyd-gyflwynydd Example.
Meddai Dirprwy Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe, Nick Brazil, am y digwyddiadau, “Roedd hyn yn gyfle gwych i’n myfyrwyr yn ogystal ag aelodau’r cyhoedd i gymryd rhan yn y digwyddiadau academi hyn, gan eu helpu ni i ddeall diwydiannau’r celfyddydau creadigol a dysgu mwy amdanynt.”
“Roedd yn hynod gyffrous i ni fel Coleg gynnal y digwyddiadau hyn a byddwn bendant yn annog ein myfyrwyr i gymryd rhan yn Academi Radio 1 y BBC ar ddiwedd mis Mai.”