Mae myfyriwr TG o Goleg Gŵyr Abertawe wedi dod yn ail yng Nghystadleuaeth Sgiliau y DU yn y categori Dylunio Gwefan Uwch a gynhaliwyd yn ddiweddar yng Ngholeg Sir Gâr.
Roedd Jordan James, sy’n astudio Diploma Lefel 3 Technoleg Gwybodaeth ar gampws Gorseinon, wedi cael y dasg o gynhyrchu gwefan i hyrwyddo Cymru fel cyrchfan i dwristiaid.
Roedd yn rhaid i’r wefan gynnwys tudalennau oedd yn weledol ddeniadol ar leoedd bwyta, dewisiadau llety a lleoedd o ddiddordeb lleol, gan ddefnyddio amrywiaeth o ieithoedd megis Bootstrap, JQuery, HTML a CSS, a chynnwys delweddau perthnasol ar lithrydd.
Yn cymryd rhan hefyd oedd Matthew John sy’n astudio tuag at HND mewn Systemau Cyfrifiadurol a Gwybodaeth – cwrs mae’r Coleg yn ei gynnig mewn partneriaeth â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
“Roedd Jordan a Matthew wedi perfformio’n dda iawn drwy gydol y gystadleuaeth, yn enwedig pan ‘ych chi’n ystyried mai dim ond pum awr oedd gyda nhw i gwblhau eu gwefannau,” dywedodd yr Arweinydd Cwricwlwm Adrian Hone.