Archwilio a Sicrwydd Uwch (AAA) - Cyfrifeg ACCA
Ffôn: 01792 284097 E-bost: accountancy@gcs.ac.uk
Trosolwg
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Gwybodaeth allweddol
Cwblhau unedau ACCA - BT i FM neu eithriadau gradd. Ar agor i fyfyrwyr o bob oedran.
Byddwch yn gallu:
- Adnabod yr amgylchedd cyfreithiol a rheoleiddiol a’i effaith ar arferion archwilio a sicrwydd
- Dangos y gallu i weithio’n effeithiol ar ymgysylltiad sicrwydd neu ymgysylltiad gwasanaeth arall o fewn fframwaith proffesiynol a moesegol
- Asesu ac argymell polisïau a gweithdrefnau rheoli ansawdd priodol mewn rheolaeth practis ac adnabod swydd yr archwilydd mewn perthynas â derbyn a chadw apwyntiadau proffesiynol
- Adnabod a llunio’r gwaith gofynnol i ddiwallu amcanion aseiniadau archwilio a chymhwyso’r Safonau Rhyngwladol ar Archwilio.
- Adnabod a llunio’r gwaith gofynnol i ddiwallu amcanion aseiniadau nad ydynt yn rhai archwilio
- Gwerthuso canfyddiadau a chanlyniadau gwaith a wnaed a drafftio adroddiadau addas ar aseiniadau
- Deall y materion a’r datblygiadau cyfredol sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau sicrwydd a gwasanaethau cysylltiedig ag archwilio.
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd yn yr ystafell ddosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA. Asesir trwy arholiad allanol.
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at unedau ACCA SBL a SBR eraill ac unedau pynciau dewisol.
Mae’r cwrs yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gofynnwch am unrhyw gyllid a allai fod ar gael.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am y cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg.