Cyfrifeg ACCA AFM – Rheolaeth Ariannol Uwch
Ffôn: 01792 284097 E-bost: accountancy@gcs.ac.uk
Trosolwg
Achredir ein cyrsiau cyfrifeg proffesiynol gan ACCA ac rydym yn Bartner Dysgu Cymeradwy Platinwm. Eu bwriad yw rhoi’r wybodaeth, y sgiliau a’r gwerthoedd proffesiynol a fydd yn datblygu gweithwyr proffesiynol i adeiladu gyrfaoedd llwyddiannus; p’un a ydynt yn gweithio yn y sector cyhoeddus neu breifat, yn ymarfer mewn sefydliad cyfrifyddu neu’n dilyn gyrfa mewn busnes.
Gwybodaeth allweddol
Byddwch yn gallu:
- Esbonio a gwerthuso rôl a chyfrifoldeb yr uwch swyddog gweithredol ariannol neu’r uwch gynghorydd ariannol o ran ateb anghenion gwrthdrawiadol rhanddeiliaid ac adnabod rôl sefydliadau ariannol rhyngwladol mewn perthynas â rheolaeth ariannol cwmnïau rhyngwladol
- Gwerthuso penderfyniadau buddsoddi posibl ac asesu eu canlyniadau ariannol a strategol, yn y wlad hon ac yn rhyngwladol
- Asesu a chynllunio caffaeliadau ac uno cwmnïau fel strategaeth twf amgen
- Gwerthuso a chynghori ar strategaethau ad-drefnu corfforaethol amgen
- Cymhwyso a gwerthuso uwch dechnegau rheoli risg a thrysorlys amgen.
Mae’r holl addysgu yn seiliedig ar ddarlithoedd ystafell dosbarth gan aelodau o staff cymwysedig a phrofiadol.
Cynigir arholiadau ffurfiol bedair gwaith y flwyddyn gan ACCA. Asesir trwy arholiad allanol.
Bydd myfyrwyr yn gallu astudio a symud ymlaen at gyrsiau ACCA SBL a SBR eraill ac unedau pynciau dewisol eraill.
Mae'r cwrs hefyd yn darparu cymhwyster y mae cyflogwyr yn chwilio amdano.
Gofynnwch am fanylion unrhyw gyllid a allai fod ar gael.
Os hoffech astudio’r cwrs hwn, cysylltwch â'r Tîm Cyfrifeg ar 01792 284097 neu e-bostiwch accountancy@gcs.ac.uk.