HND Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol i’r HNC)
E-bost: he@gcs.ac.uk
Trosolwg
Corff llywodraethu: Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant
Mae HND Peirianneg Drydanol ac Electronig (Atodol i’r HNC) yn addas i’r rhai a hoffai gael gyrfa ym maes peirianneg drydanol/electronig, gyda chyfrifoldeb am ddylunio, gosod, comisiynu a gweithredu gwasanaethau peirianneg.
Bydd y myfyrwyr yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd o werth mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd. Amlygir y rhain gan Sgiliau Allweddol Lefel Uwch yr Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm ac maen nhw’n cynnwys datrys problemau, cyfathrebu, a gweithio gydag eraill, yn ogystal â defnydd effeithiol o gyfleusterau TG cyffredinol a sgiliau adalw gwybodaeth. Maen nhw hefyd yn cynnwys cynllunio hunan-ddysgu a gwella perfformiad, fel sylfaen ar gyfer dysgu gydol oes.
Nod y cwrs hwn yw datblygu myfyrwyr trwy roi’r sgiliau iddynt weithio ym maes peirianneg fecanyddol, a’r gallu i ddatrys problemau peirianneg, dylunio systemau ac ati trwy feddwl yn greadigol ac yn arloesol.
Byddai disgwyl i fyfyrwyr sy’n graddio o’r rhaglenni arfaethedig ddangos y sgiliau canlynol:
- Y gallu i gymhwyso offer mathemategolT, gwyddonol a thechnolegol
- Y gallu i ddadansoddi a dehongli data a, phan fydd angen, dylunio arbrofion i gael data newydd
- Y gallu i gynnal ymagwedd ddamcaniaethol gadarn er mwyn cyflwyno technoleg newydd
- Y gallu i gymhwso barn broffesiynol, gan gydbwyso materion costau, buddion, diogelwch, ansawdd ac ati
- Y gallu i asesu a rheoli risgiau.
Gwybodaeth allweddol
Fel rheol, dylai myfyrwyr feddu ar gymhwyster HNC gyda 120 credyd ar Lefel 4, o raglen gymeradwy.
Modiwlau
- PLCs a Rheolaeth
- Prosiect Grŵp
- Prosesu Signal Digidol a Chyfathrebu
- Rheolaeth, Arloesedd a Chynaliadwyedd
- Pŵer Trydanol
- Theori Egwyddorion Trydanol.
Asesu
Asesir myfyrwyr trwy gyfuniad o ddulliau asesu:
- Gwaith cwrs
- Arholiad ysgrifenedig.
Gall y cymhwyster Peirianneg Drydanol ac Electronig hwn arwain at amrywiaeth o gyfleoedd cyflogaeth ym meysydd ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a phreifat.
Gall myfyrwyr symud ymlaen i’r cwrs BEng ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant hefyd.
Costau’r cwrs
£2,100* y flwyddyn, rhan-amser.
I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk.
Ffioedd ychwanegol
- Teithio i’r Coleg, neu’r lleoliad ac yn ôl
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. cofau bach)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
Achredu Dysgu Blaenorol (APL)
Mae Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS.
* Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan PCDDS i gael rhagor o wybodaeth.