Mae staff a myfyrwyr ar draws Coleg Gŵyr Abertawe wedi dathlu Wythnos Amrywiaeth gyda’r unfed Ffair Amrywiaeth ar ddeg a gynhelir bob blwyddyn a chyfres o weithdai i godi ymwybyddiaeth.
Ymhlith yr adloniant eleni roedd drymio Affricanaidd, crefftau ymladd Brasilaidd, lliwio dwylo â henna ac arddangosfeydd dawns Bollywood, stryd a Tsieineaidd. Darparwyd cerddoriaeth fyw gan fyfyrwyr Llwyn y Bryn a Gorseinon*.
“Mae Wythnos Amrywiaeth – ac yn enwedig y Ffair Amrywiaeth – yn gyfle i bawb ddathlu cyfoeth diwylliannol ein cymunedau,” dywedodd yr Arweinydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth Jane John. “Gyda chymorth a chefnogaeth ein sefydliadau partner, gallwn ni gael llawer o hwyl yn ogystal â hyrwyddo ymwybyddiaeth o’r materion pwysig.”
Fel rhan o Wythnos Amrywiaeth, roedd myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe hefyd wedi cymryd rhan mewn gweithdai Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth. Roedd myfyrwyr Gosodiadau Trydanol, Chwaraeon, Sgiliau Byw’n Annibynnol, Plymwaith a Pheirianneg wedi cymryd rhan mewn gweithdai gyda’r nod o fynd i’r afael â materion fel stereoteipio, bwlio a hiliaeth.
Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth yw elusen addysgol wrth-hiliaeth y DU. Sefydlwyd yn 1996, mae’n cynnal ‘pythefnos o weithredu’ yng Nghymru bob mis Hydref, gyda gweithdai sy’n ceisio addysgu a grymuso pobl ifanc.
DIWEDD
*Ymhlith y perfformiadau gan fyfyrwyr eleni roedd:
- Cerddoriaeth fyw gan ein myfyrwyr Diploma Estynedig Perfformiad Cerddoriaeth ar gampws Llwyn y Bryn: Jack Williams; Phillip Stewart; Samara Phillips; Tamara Ochana; Jack Clements; Anna Dovak; Jason Duffy; Morgan Giles; Ashlee Greaves-Davies; Shona Hammond; Matias Kajander; Chloe Laracombe; Jack Lee; Shannon Mullin
- Sally Robinson (gitâr a llais)
- Cody Evans
- Rebekah
- Tally Bryant a Jazmine Whalley (dawns)
- Fraya Jones, Ethan Maxwell, Bethan Walters (llais ac iwcalili)
- Ryan Gormley (dawns)
- Josh Pozzi (gitâr a llais)
- Daisy White (gitâr a llais)
- Liam Quiros (llais ac iwcalili)
- Aran Henley (llais)
- Oat Jenner (monolog dramatig)
- Stefania Smith (gitâr a llais)
*Diolch yn fawr iawn hefyd i’n stondinwyr a’n partneriaid yn y gymuned gan gynnwys:
- Gbubemi Amas
- Capoeira
- Arnold Matsena
- Grŵp Dawns Sarita Sood
- Canolfan Gymunedol Tsieineaidd
- Arnold Matsena
- Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig
- Canolfan Gymunedol Affricanaidd
- Ymddiriedolaeth Terrence Higgins
- Prosiect Cymunedol Addysg Cenia