Yn ddiweddar mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi ennill statws ‘Aelod Cyswllt’ gan y Gymdeithas Frenhinol, academi wyddoniaeth genedlaethol y DU.
Mae Cynllun Ysgolion a Cholegau Cyswllt y Gymdeithas Frenhinol yn rhwydwaith o athrawon brwdfrydig sy'n rhannu eu profiad er mwyn helpu i hyrwyddo rhagoriaeth ym maes addysgu gwyddoniaeth a mathemateg.
Roedd y Gymdeithas Frenhinol wedi cyfweld â’r darlithydd bioleg Amy Herbert yn ddiweddar ar gyfer ei phodlediad mis Medi a gofynnwyd iddi am brosiectau STEM amrywiol y coleg.
Mae'r rhain yn cynnwys seminarau i fyfyrwyr gyda ffigyrau blaenllaw o fyd diwydiant a'r byd academaidd, prosiectau arobryn CREST, cydweithredu â busnesau lleol ac ymgysylltu â'r rhaglen AU +, sy'n annog myfyrwyr i wneud cais i fynd i’r prifysgolion gorau yn y DU.
“Ni oedd yr unig goleg / ysgol yn y DU i gael gwahoddiad i gymryd rhan yn y podlediadau felly roedd yn fraint enfawr," dywedodd Amy. "Roedd cael fy nghyfweld gan gymdeithas sydd mor amlwg yn anrhydedd enfawr, oherwydd yn gyffredinol maen nhw’n cyfweld ag enillwyr Gwobr Nobel. Rydyn ni bellach yn edrych ymlaen at ddatblygu ein perthynas â'r Gymdeithas Frenhinol ac at barhau â'n hymrwymiad i ragoriaeth mewn gwyddoniaeth yn y coleg.”
Gallwch ddarllen cyfweliad Amy yn:
http://blogs.royalsociety.org/rscience/2015/09/30/september-2015-back-t…