Mae ‘Collider’ yn arddangosfa sy’n dilyn rhaglen lwyddiannus Artistiaid Preswyl 2015 Coleg Gŵyr Abertawe.
Bydd yr arddangosfa’n dangos gwaith yr artistiaid dethol a gymerodd ran yn rhaglen Artistiaid Preswyl eleni – Jason a Becky a Gareth Southwell.
Yn ogystal, bydd arddangosfa o ddeunydd gan fyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe o fenter Ysgol Gelf Sadwrn a chyrsiau celf a dylunio amrywiol, a gwaith a wnaed gan yr artistiaid a NEETs (pobl ifanc ‘Nad Ydynt Mewn Addysg, Cyflogaeth na Hyfforddiant’) lleol.
Eleni, cafodd yr artistiaid eu dewis o blith amrywiaeth eang o gyflwyniadau o ardal Abertawe. Un o brif nodau’r prosiect oedd cynnig profiad amrywiol o sîn gelf Abertawe i’r gymuned leol. Gan hynny cafodd artistiaid eu dewis am eu hystod mewn mynegiant ac athroniaeth. Roedd y broses ddethol yn cynnwys panel o gynrychiolwyr o’r rhaglenni celf a dylunio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe a chynrychiolydd o Oriel Mission.
Roedd yr artistiaid Jason Cartwright a Becky Williams (sef Jason a Becky) eisoes wedi cwblhau cyfnodau preswyl gyda’i gilydd mewn sefydliadau fel Theatr Genedlaethol Cymru, Oriel Elysium a Phrifysgol Fetropolitan Abertawe fel y’i gelwid ar y pryd. Maen nhw hefyd wedi cymryd rhan mewn sioeau ar draws y DU, Ewrop ac mor bell â Cholorado, UDA. Mae eu gwaith yn archwilio’r cysyniad o rannu syniadau trwy ddulliau cydweithredol gan ganolbwyntio’n benodol ar naratif, cymryd rhan a bwrw amheuaeth ar ein hamgylchoedd cymdeithasol.
Mae Gareth Southwell yn artist/darlunydd sy’n gweithio gan amlaf gyda phen ac inc, ac yn bennaf ym meysydd cyhoeddi a darlunio golygyddol. Mae ei waith celf wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer cartwnau, gwawdluniau a darluniau mewn amrywiaeth o gyfryngau printiedig. Mae ei gleientiaid yn y gorffennol wedi cynnwys Gwasg Prifysgol Rhydychen, Hasbro, Palgrave Macmillan, The Philosophers’ Magazine, Penguin a W. W. Norton. Mae ganddo ddiddordeb brwd mewn comics ac ar hyn o bryd mae’n cydweithio ar nofel graffig am Sigmund Freud.
Yn ogystal â datblygu eu gwaith eu hunain, roedd yr artistiaid wedi arwain gweithdai yn Llwyn y Bryn, cymryd rhan mewn digwyddiadau eraill ar draws calendr y coleg ac roedd ganddynt broffil yn dangos ‘yn y Lle […] ’ yn Oriel Mission ym mis Mehefin.
Bydd ‘Collider’ i’w gweld yn Oriel Elysium, Stryd y Coleg, Abertawe rhwng
7 a 29 Awst.
Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, cysylltwch â Mike Murray: murray_mike@outlook.com.
Gwefannau’r artistiaid:
www.jasonandbecky.co.uk
www.woodpig.co.uk
Hoffai Coleg Gŵyr Abertawe a’i bartneriaid ddiolch i’r rhai sydd wedi cymryd rhan yn y prosiect hwn a dymuno pob lwc iddynt yn y dyfodol.