Fel rhan o ddathliadau Dydd Gŵyl Ddewi a Mis Cŵl Cymru yn y coleg gwahoddwyd y baritôn Mark Llewelyn Evans i’r coleg i gynnal gweithdai canu i’r myfyrwyr sy’n dilyn cwrs Lefel 3 Celfyddydau Perfformio. Dyma fyfyrwyr sydd a’u bryd ar fynd i brifysgol i astudio canu ac actio.
Astudiodd Mark yn Ysgol Cerdd a Drama’r Guildhall yn Llundain cyn astudio opera yn y Stiwdio Opera Cenedlaethol. Mae perfformiadau Mark yn cynnwys caneuon clasurol a phoblogaidd o’i albymau, caneuon poblogaidd Rodgers & Hammerstein, Phantom of the Opera a Les Misérables, sgôr ffilmiau a baledi Celtaidd cyfarwydd.
Dechreuodd Mark drwy gynnal sesiwn cynhesu fyny gyda phawb, ac yna sesiynau meistr un i un gyda phob myfyriwr yn unigol, gan roi awgrymiadau a chyngor ar sut i wella eu perfformiad.
Roedd adborth y myfyrwyr yn bositif iawn, ac yn dangos sut mae partneriaethau fel hyn yn gallu ysgogoi a datblgyu hunan-hyder ein myfyrwyr wrth iddynt baratoi at eu llwybrau dilyniant.