Bu myfyrwyr Lefel A Saesneg Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan a chael eu hysbrydoli mewn gweithdy arbennig gyda sgwennwyr Cymreig.
Cynhaliwyd y digwyddiad yng Nghanolfan Dylan Thomas, fel rhan o ymgyrch Mis Cŵl Cymru'r coleg ar gyfer annog myfyrwyr i ddefnyddio Cymru a diwylliant Cymreig fel ysbrydoliaeth i’w sgwennu creadigol.
Yno, oedd Martin Daws bardd perfformio ac Awdur Llawryfog Pobl Ifainc Cymru, a Rachel Trezise , a enillodd Wobr Dylan Thomas ar gyfer Fresh Apples, ei chasgliad o straeon byr yn disgrifio bywyd yng nghymoedd cloddio glo De Cymru.
“Rydym yn hynod falch bod Rachel a Martin yn gallu dod draw a chwrdd â’n myfyrwyr,” meddai Anna Davies, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd y coleg. “Roedd y ddau yn ysbrydoliaeth i’r myfyrwyr, ac yn gallu rhoi digon o dips ar sut i fynd ati i sgwennu’n greadigol yn ogystal â defnyddio Cymru a hunaniaeth Gymreig fel cefnlen i’w gwaith.”
Bu’r digwyddiad hwn yn bosib drwy nawdd gan ColegcauCymru i ddatblygu’r iaith Gymraeg ac ethos Cymreig yn ein colegau Addysg Bellach.