Yn ddiweddar roedd Coleg Gŵyr Abertawe wrthi’n paratoi i groesawu cymal rhanbarthol Cystadleuaeth Sgiliau Cymru ar gyfer Technoleg Moduron.
Roedd wyth myfyriwr o bob rhan o Dde Cymru wedi ymgasglu ar gampws Gorseinon ar 31 Ionawr, lle bu’n rhaid iddynt gwblhau pedair tasg ymarferol 30 munud o dan lygad barcud panel o feirniaid o fyd addysg a byd diwydiant.
“Mae’r cystadleuwyr i gyd yn gweithio tuag at eu cymwysterau Lefel 2. Gofynnwyd iddyn nhw wneud profion sgiliau penodol cysylltiedig â gofynion y sector,” dywedodd Arweinydd Cwricwlwm Cerbydau Modur Lee Hayward. “Gofynnwyd iddyn nhw edrych ar systemau oeri, brêcs, injans ac offer trydanol.”
Roedd cystadleuwyr wedi cynrychioli Coleg Gŵyr Abertawe, Coleg Sir Gâr, Grŵp NPTC, Pen-y-bont ar Ogwr, Coleg Gwent a Chaerdydd a’r Fro.
“Roedden ni am fod mor gynhwysol ag sy’n bosib ac felly gwnaethon ni wahodd pob coleg yn ardal De Cymru,” ychwanegodd Lee. “Rydyn ni hefyd wedi bod yn ffodus iawn i gael noddwyr gwych sef John Rickard Motor Factors, Normag Motor Factors, Snap On Tools, Halfords a Gravells Kia.”
Y tri ymgeisydd gorau yn y digwyddiad hwn oedd Dylan Charles o Goleg Gŵyr Abertawe (cyntaf), Ben Lloyd o Goleg Sir Gâr (ail) a Joseph Jackson o Grŵp NPTC (trydydd).
Byddan nhw, ynghyd â’r tri ymgeisydd gorau mewn ail gymal rhanbarthol a gynhaliwyd yng Ngholeg Menai ar yr un diwrnod, yn mynd drwodd i’r rownd derfynol yng Ngholeg Cambria ar 27 Chwefror.